Y Seintiau Newydd allan o Ewrop

tns (llyfrgell)

Apoel Nicosia 3-0 Y Seintiau Newydd

Aeth Y Seintiau Newydd i Gyprus yn dilyn gêm ddi-sgôr yn y cymal cyntaf ar Neuadd y Parc, ac am dros awr roedd eu gobeithion yn dal yn fyw.

Er i'r tîm cartref fynd ar y blaen wedi 54 munud gydag ergyd Alexandrou yn gwyro i'r rhwyd, fe fyddai gôl oddi cartref i'r Seintiau wedi bod yn ddigon i aros yn y gystadleuaeth.

Fe gawson nhw ambell gyfle, ond pan ddaeth yr ail i Apoel wrth i Soteriou daro ergyd o chwe llath i'r gornel wedi 73 munud, fe ddaeth y gobaith yna i ben.

Daeth trydedd gôl i Apoel yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau pan rwydodd De Vincenti gic o'r smotyn.

Efallai bod y sgôr yn greulon, ond i fod yn deg, doedd Apoel yn haeddu dim llai ar ôl rheoli'r meddiant am y mwyafrif o'r gêm. Fe gafodd Simon Spender ac Adrian Cieslewicz gyfleoedd, ond roedd y tîm cartref yn feistrolgar ar y cyfan.

Bydd gobeithion timau Cymru o gyrraedd rownd nesaf cystadlaethau Ewrop nawr yn troi at Gap Cei Connah yng Nghynghrair Europa nos Iau.