Anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad A499 ger Pwllheli

heddlu

Mae lle i gredu bod dau o bobl wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Pwllheli yng Ngwynedd.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar yr A499 yn Y Ffôr am 15:45 ddydd Mercher.

Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â Volkswagen Polo arian a fan Ford Transit wen.

Cafodd y ddau berson eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae'r ffordd ar gau ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.