Buddugoliaeth bwysig i Forgannwg o bedair wiced

Jacques Rudolph Image copyright Getty Images
Image caption Jacques Rudolph yn batio dros Forgannwg

Mae Morgannwg wedi curo Sir Derby o bedair wiced i ennill gêm bencampwriaeth am y tro cyntaf mewn 12 mis.

Ar ôl i'r ymwelwyr frwydro'n ôl, Morgannwg oedd yn fuddugol ar ddiwrnod ola'r ornest pedwar diwrnod ym Mae Colwyn.

Sgoriodd y tîm cartref 518 yn eu batiad cyntaf, gydag Aneurin Donald, 19 oed, yn serennu gan sgorio 234.

Wedi perfformiadau gwael gan yr ymwelwyr yn y batiad cyntaf, llwyddon nhw i osod targed o 196 i Forgannwg ar y diwrnod olaf.

Er nad oedd hi'n syml i Forgannwg, llwyddon nhw i gyrraedd y targed gyda chymorth 51 heb fod allan i Jacques Rudolph, a 36 heb fod allan i Craig Meschede.

Bydd Morgannwg yn gobeithio y bydd y fuddugoliaeth yn sbardun iddyn nhw cyn eu gêm 20/20 yn erbyn Gwlad yr Haf nos Wener.