Cefnogaeth Llafur: 'Corbyn ar fai am y gostyngiad'

Owen Smith Image copyright Getty Images

Mae'r ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Owen Smith wedi beio Jeremy Corbyn am y gostyngiad yn y gefnogaeth i'r blaid yn etholiad y Cynulliad eleni.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd AS Pontypridd bod cefnogwyr Llafur yng nghadarnleoedd y blaid wedi colli gobaith oherwydd arweinyddiaeth Mr Corbyn.

Ychwanegodd bod Mr Corbyn wedi methu a siarad yn bwerus i'r blaid yn San Steffan.

"Rydyn ni wedi colli ein hygrededd ac rydyn ni wedi colli parch mewn nifer o gymunedau - cymunedau sydd wedi bod yn draddodiadol yn gefnogol o'r Blaid Lafur," meddai Mr Smith.

"I ni ddod yn agos i golli Blaenau Gwent, i ni golli'r Rhondda, roedd y rheiny yn ergydion enfawr i'r blaid ac mae hynny'n rhywbeth oedd angen ymateb gan Jeremy Corbyn, ond mae wedi bod yn sâl am gymryd achos Llafur i'r Torïaid yn San Steffan."

'Ymestyn datganoli'

Fe wadodd Mr Smith ei fod yn erbyn datganoli a dywedodd ei fod eisiau i'r Prif Weinidog Carwyn Jones chwarae mwy o rôl i Lafur yn San Steffan.

"Rydw i'n ddatganolwr ymroddedig," meddai.

"Rwy'n meddwl bod angen i ni ymestyn datganoli ar draws Lloegr a dod a'r buddiannau rydyn ni wedi'u gweld yng Nghymru i bobl Lloegr.

"Y gwahaniaeth, rwy'n tybio, yw bod pobl eisiau gwneud pwynt o'r ffaith 'nod i hefyd yn rhywun sy'n meddwl am yr hyn rydyn ni eisiau ei gadw'n gyffredin i'n gilydd, yn ogystal â'r hyn all gael ei ddatganoli.

"Er enghraifft, rydw i wedi dweud y dylai arweinydd Llafur yng Nghymru, y Prif Weinidog, chwarae rhan llawer mwy blaengar mewn penderfyniadau mawr sy'n cael eu cymryd yn San Steffan."

Image copyright PA

Dywedodd Mr Smith ei fod wedi newid ei feddwl am herio Mr Corbyn ar ôl iddo fethu a chynnig cynllun pendant i uno'r blaid mewn cyfarfod, a'i fod yn ymddangos yn barod i weld y blaid yn hollti.

Ond mae Mr Corbyn wedi honni bod Ms Smith wedi dweud yn y cyfarfod ei fod yn hapus yng nghabinet y blaid, cyn ymddiswyddo.

Ychwanegodd y byddai croeso i Mr Smith ailymuno â chabinet y blaid wedi'r bleidlais ym mis Medi.