Caniatâd terfynol i Fferm Wynt Mynydd y Gwair

Mynydd y Gwair
Image caption Mynydd y Gwair ger Abertawe

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais cwmni RWE Innogy i godi fferm wynt ar safle Mynydd y Gwair ger Abertawe.

Daw'r penderfyniad terfynol yn dilyn argymhelliad gan arolygydd cynllunio annibynnol ar ddiwedd ymchwiliad cyhoeddus i'r cais yn gynharach eleni.

Eisoes mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cais cynllunio i'r fferm wynt.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, y byddai'r cynllun yn help wrth geisio cyrraedd targedau ynni adnewyddol.

Wedi'r cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd rheolwr datblygu cynllun Mynydd y Gwair, Gwenllian Elias:

"Dyma oedd y cam olaf er mwyn galluogi buddsoddiad posib o £52 miliwn. Mae gan Mynydd y Gwair ganiatâd cynllunio yn barod a mynediad i'r farchnad.

"Rydym wrth ein bodd gyda'r penderfyniad ac yn teimlo'n hyderus y gall hwn gael effaith bositif ar gwmnïau lleol a chyflenwyr lleol. Fe ddaw'r cynllun â buddion amgylcheddol, ond rhai economaidd hefyd, ac rydym yn awyddus i weithio gyda chyflenwyr lleol pan mae hynny'n bosib er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd yn lleol.

"Y cam nesaf yw cwrdd gyda busnesau lleol yn ddiweddarach yn y mis."

Gallai'r gwaith o godi'r fferm wynt ddechrau cyn gynted â Hydref 2016. Mae astudiaeth economaidd annibynnol wedi awgrymu y gallai Fferm Wynt Mynydd y Gwair greu hyd at 140 o swyddi ymhob blwyddyn o'i hadeiladu, ac 19 o swyddi llawn amser yn ystod oes weithredol y fferm wynt.

Roedd rhai yn anhapus gyda'r ymchwiliad cyhoeddus arweiniodd at y cyhoeddiad, ac yn feirniadol o'r broses.

Yn y gorffennol, dywedodd yr AC lleol Dr Altaf Hussain bod methiannau yn yr ymgynghoriad gyda phobl leol, ac nad oedd y cais yn newid y "rhesymau cadarn" am wrthod y ceisiadau blaenorol.

Ychwanegodd y gallai'r datblygiad gael effaith negyddol ar ffermio.

Dywedodd ffermwr lleol a chadeirydd yr ymgyrch yn erbyn y cynllun ei fod yn "anhygoel" nad oedd yr "holl wybodaeth" gafodd ei gyflwyno mewn gwrandawiadau blaenorol wedi ei dderbyn.

Ychwanegodd bod gan 120 o bobl yr hawl i roi anifeiliaid ar y tir, a bod hynny werth £5m i'r economi leol.