Trethi'r Cymry

Mae 'na lawer o ddyfalu sut a pha bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pwerau sydd ar gael yn Neddf Cymru 2014 i godi trethi yma.

Ar hyn o bryd mae'r drefn yn debyg iawn i'r gyfundrefn sydd yn bodoli dros y ffin yn Lloegr, ond dydy hi ddim wedi bod felly ar hyd y canrifoedd. Roedd gan Gymru ei hunaniaeth sefydliadol ei hun o safbwynt gweinyddiaeth ariannol - nid yn unig wedi 1282 ond wedi 1543 hefyd.

Dr Nia Powell, o Adran Hanes Prifysgol Bangor, sydd yn egluro:


Y drefn Seisnig

Mae codi trethi yn ddull sydd wedi ei fabwysiadu ers canrifoedd gan y rhai sydd mewn grym i sicrhau'r cyllid angenrheidiol i lywodraethu.

Derbyniai brenhinoedd Lloegr yn ystod y canol oesoedd lawer o'u hincwm rheolaidd o'u tiroedd. Ond pan roedden nhw'n wynebu gostau anghyffredin, fel rhyfel, roedden nhw'n casglu cyllid ychwanegol trwy dreth gyffredinol oedd yn cael ei alw'n 'swbsidi'.

Gan fod hwn yn daliad allan o'r cyffredin, roedd rhaid cael caniatâd y gwŷr cyffredin a fyddai'n talu. Byddai cynrychiolwyr o blith y 'cyffredin' felly'n cyfarfod i drafod ceisiadau'r goron am gymhorthdal, gan drafod amodau'r taliad a rhoi eu caniatâd fel roedden nhw'n gweld yn dda.

Trafod cymorthdaliadau, yn wir, oedd y prif reswm pam y daeth y 'cyffredin' yn raddol yn rhan annatod o senedd Lloegr. Dyma sail datblygiad Tŷ'r Cyffredin fel rhan o'r drefn lywodraethol.

Doedd Cymru ddim yn rhan o'r drefn Seisnig o roi cymorthdaliadau a oedd yn cael eu caniatau gan y 'cyffredin' i'r Goron yn ystod y canol oesoedd.

Yr oedd y Cymry wedi arfer rhoi taliadau amrywiol i'w brenhinoedd ac i'w thywysogion, wrth gwrs, ac i'w harglwyddi Normanaidd a ymddangosodd o'r unfed ganrif ar ddeg ymlaen. Mater gwahanol oedd talu cymhorthdal ychwanegol.

Image caption Edward I

Llywelyn

Wedi iddo drechu Llywelyn ap Gruffydd ym 1282, ceisiodd Edward godi cymhorthdal ar Gymru'n benodol ym 1291, ond doedd 'na ddim cynllun i sicrhau 'cydsyniad' y Cymry a doedd 'na ddim cynrychiolwyr o blith y 'cyffredin' yng Nghymru i'r senedd ychwaith ar y pryd.

Y canlyniad oedd gwrthwynebiad, nid yn unig o blith trigolion hen dywysogaeth Llywelyn, ond gwrthwynebiad cryfach, os rhywbeth, o du arglwyddi Normanaidd Cymru.

Mynnai'r rhain fod yn rhaid wrth gydsyniad i unrhyw gymhorthdal o bob un o'u tiriogaethau'n unigol. Canlyniad y gwrthwynebiad cyffredinol hwn oedd ei gwneud hi'n llawer anoddach i'r Brenin godi cyllid o Gymru nag o siroedd Lloegr.

O hynny tan yr unfed ganrif ar bymtheg doedd y Cymry ddim yn talu trethi cyffredinol gafodd eu rhoi i'r Goron gan senedd Lloegr gan mai'n achlysurol iawn yr oedd cynrychiolaeth o Gymru yn y senedd.

Cafodd ceisiadau eu gwneud am rai cymorthdaliadau, ond rhaid oedd sicrhau caniatâd ar wahân mewn gwahanol rannau o Gymru yn hytrach nag yn y senedd. Er enghraifft, digwyddai hyn yn gyson yn ystod y 1390au. Yn arwyddocaol cafodd y cyfarfod yng Ngŵyr i drafod y caniatâd ei alw'n parliamentum, gan adlewyrchu swyddogaeth y senedd o safbwynt Lloegr ar y pryd. Rhoddodd hyn oll i Gymru ei hunaniaeth benodol ei hun o safbwynt trethu.

Image caption Y Ddeddf Uno 1536, ond doedd hynny ddim yn golygu y byddai casglu trethi yr un fath yng Nghymru a Lloegr

Deddfau Uno

Rhwng 1536 a 1543 cafodd dwy ddeddf eu pasio yn senedd Lloegr sy'n cael eu galw bellach yn 'Ddeddfau Uno' Cymru a Lloegr, deddfau sydd wedi eu dehongli fel cyfrwng dileu gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr.

Mae yna elfennau yn y ddwy ddeddf ddaeth a Cymru'n nes at arferion Lloegr. Wedi 1536 cafodd Cymru gyfan ei rhannu yn siroedd, ac wedi deddf 1543 yr oedd Cymru gyfan i gael cynrychiolaeth seneddol gyson am y tro cyntaf.

Roedd hyn yn golygu ei bod bellach yn llawer haws codi trethi yng Nghymru, heb orfod sicrhau caniatâd lleol fel o'r blaen.

Trwy Ddeddf Gymhorthdal 1543 bu'n rhaid i Gymru gyfan yn unffurf, am y tro cyntaf erioed, dalu treth gafodd ei chaniatau yn y senedd. Ond doess hyn ddim yn golygu y byddai'r un drefn yn bodli yn llwyr yng Nghymru a Lloegr o bell ffordd.

Y rheswm am hyn yw bod cymal yn y ddwy 'Ddeddf Uno' yn pennu bod Cymru i fod yn gyfrifol am daliad arall a fu'n gryn faich ariannol ar y wlad yn ystod y cyfnod 1543-1660. Yn ôl hwn, gallai arglwydd yng Nghymru godi taliad ar ei ddeiliaid bob tro y byddai un arglwydd yn dilyn y llall - miseoedd yr enw Saesneg ar hwn.

Y rheswm am gynnwys y cymal ym 1536 a 1543 oedd mai'r brenin oedd prif ddeiliad y rhan helaethaf o bell ffordd o hen arglwyddiaethau Cymru erbyn 1536, ac mae 'Tywysogaeth Cymru' yn cael ei ystyried yn un ohonyn nhw.

Ar ben hyn, roedd tiriogaethau fel Brycheiniog na fu erioed yn rhan o 'Dywysogaeth' y canol oesoedd, yn cael eu ystyried bellach yn rhan o'r 'Dywysogaeth' o safbwynt talu'r mise. Profodd hyn yn ffynhonnell gyllid werthfawr iawn i'r goron.

Daeth cais am daliad bob tro yr oedd brenin neu frenhines newydd, a thaliad pellach bob tro y byddai Tywysog Cymru newydd yn cael ei arwisgo. Rhaid oedd cael caniatâd lleol i'r taliadau, fel yn achos cymhorthdal y canol oesoedd. A doedd y caniatâd hwn ddim yn cael ei roi yn ddi-gwestiwn.

Ym 1606, er enghraifft, dim ond wedi i'r goron dderbyn nifer o amodau gan drigolion sir Gaernarfon, y cafodd y taliad i gydnabod esgyniad Iago I yn frenin yn 1603 ei roi.

Roedd y taliad yn cael ei 'nabod fel 'Treth T'wysog', nid treth frenhinol fel y cyfryw, a'r farn oedd ei fod yn llawer mwy o faich na'r trethi seneddol. Un rheswm am hyn oedd mai dim ond y mwyaf cefnog, fel rheol, a dalai dreth seneddol tra bod y gymuned gyfan o dan orfodaeth i dalu'r 'Dreth T'wysog'.

Image caption "'Does dim yn y byd yn sicr ond marwolaeth a threthi" Mae geiriau Benjamin Franklin yn y ddeunawfed ganrif yr un mor wir heddiw

'Baich'

Ym Mrycheiniog ym 1549 roedd pawb ar wahân i 13 o drefwyr tlawd i dalu. Yr oedd hefyd yn dreth feichus am ei bod yn cael ei chodi mor aml - deirgwaith rhwng 1547 a 1558, er enghraifft, a phedair gwaith rhwng 1603 a 1625.

Yr oedd y taliadau hyn yn elfen o wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr, a thrwy ddeddfau 1536 a 1543 yr oedden nhw i gael blaenoriaeth dros dalu trethi'r senedd.

Cafodd hyn ei ailadrodd mewn deddfau oedd yn caniatau'r cymorthdaliadau seneddol, ac yr oedd yn sail i ohirio talu trethi seneddol.

Cyhoeddodd trigolion Cydweli, er enghraifft, na fydden nhw'n talu treth seneddol 1549, nes iddyn nhw orffen talu'r mise a nodai esgyniad Edward VI i'r orsedd ym 1547.

Gallai oedi o dros chwarter canrif ddigwydd, fel yn hanes Treth Ddefaid 1549. Chafodd honno ddim o'i thalu gan driogolion Defynnog yng Nghantref Sele tan 1575.

Yr oedd gwahaniaethau amlwg rhwng Cymru a Lloegr felly'n parhau o safbwynt y trethi gafodd eu talu gan eu trigolion a'r dull o gasglu, a'r rheini'n wahaniaethau statudol a oedd yn rhan o'r 'Deddfau Uno' eu hunain.

Yn y gorffennol, cafodd yr oedi cyn i'r Cymry dalu eu trethi ei ddehongli fel tystiolaeth o dlodi ac anallu i dalu. Dyw hyn ddim o angenrheidrwydd yn wir ond, yn hytrach, yn un o ganlyniadau'r angen i dalu'r dreth frenhinol 'amgen' - y mise - trethu dyblyg i bob pwrpas a baich gafodd ei wneud yn statudol yn neddfau 1536 a 1543.

Baich, ie, ond mae'n dangos o safbwynt gweinyddu ariannol nad oedd yna gymhathu llwyr rhwng Cymru a Lloegr o ganlyniad i'r 'Deddfau Uno'. Roedd yn wahaniaeth a barhaodd tan y Rhyfel Cartref.