Carwyn Jones: Galw am undod yn y DU ar Brexit

Carwyn Jones
Image caption Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi galw ar senedd-dai y DU i gytuno ar gynllun Brexit.

Roedd e'n siarad ar ôl cwrdd ag arweinwyr llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon ddydd Gwener er mwyn trafod y ffordd ymlaen yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Carwyn Jones mai Brexit oedd yr her fwyaf i aelodau'r cyngor oedd wedi dod ynghyd, i wynebu gydai'i gilydd.

Hefyd yn bresennol yng Nghaerdydd yn ystod Cyngor y Gweinidogion roedd prif weinidog Gweriniaeth Iwerddon, Enda Kenny a chynrychiolwyr o ynysoedd Manaw, Jersey a Guernsey.

Wrth annerch y wasg wedi'r cyfarfod dywedodd Mr Jones, y byddai yna "newidiadau sylfaenol" o ganlyniad i'r refferendwm, ac "yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, ei bod hi'n bwysicach nag erioed i barhau gyda chryfder y berthynas".

Mae Mr Jones a Nicola Sturgeon, prif weinidog Yr Alban, eisoes wedi cwrdd â'r prif weinidog newydd, Theresa May ar ôl canlyniad y refferendwm.

Dywedodd Mr Jones: "Mae cyfarfod y cyngor hwn yn bwysig wrth ddatblygu perthynas bositif rhwng yr aelodau, ac yn ystod yr amser tymhestlog hwn mae'n bwysig i ni allu cydweithio er mwyn sicrhau ffordd llwyddianus ymlaen."

Ychwanegodd Mr Jones ei fod yn edrych ymlaen at y trafodaethau, ac i roi neges bositif i weddill y byd.

Image copyright Llywodraeth Yr Alban

Ond mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddiogelu cymunedau Cymru rhag effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd llefarydd y blaid ar faterion tramor, Steffan Lewis: "Tra bod gwledydd eraill yr ynysoedd hyn yn gosod cynlluniau clir a safbwyntiau ar gyfer trafodaethau, mae'n annerbyniol bod Llywodraeth Lafur Cymru yn mynnu chwarae gêm o 'aros a gweld'."

'Prosiectau wedi methu'

Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi pwysleisio unwaith eto fodd bynnag y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle i edrych o'r newydd ar y ffordd y mae'r arian grant presennol o Frwsel yn cael ei wario yng Nghymru.

"Rydw i'n meddwl mai'r peth cywir a theg i'w wneud fyddai cymryd cam yn ôl, edrych ar ba brosiectau weithiodd orau, pa brosiectau lwyddodd yn bendant i wella pethau fel lefelau sgiliau, a chreu swyddi mewn cymdeithas entrepreneuraidd rydyn ni i gyd am fod yn rhan ohoni," meddai wrth raglen Good Morning Wales.

"Beth am weld a allwn ni gael rhaglen fydd yn llawer mwy dyfeisgar wrth ddarparu beth rydyn ni eisiau ei weld, yn hytrach nag ailadrodd beth fyddai rhai pobl wedi'i weld gan brosiectau oedd yn amlwg yn methu."