Cynghrair Europa: Gap Cei Connah 1-2 FK Vojvodina

Gap Connah's Quay v FK Vojvodina Image copyright NCM Media

Fe wnaeth dwy gôl gan Dejan Meleg helpu FK Vojvodina i symud 'mlaen yng Nghynghrair Europa wrth iddyn nhw drechu Cei Connah yn Y Rhyl.

Aeth y tîm o Serbia ar y blaen ar ôl saith munud yn unig arth i Meleg sgorio o gic rydd o 25 llath.

Daeth Wes Baynes yn agos i'w gwneud hi'n gyfartal, ond i'w gic rydd gael ei arbed yn ardderchog.

Dyblwyd mantais yr ymwelwyr wrth i Meleg sgorio cic o'r smotyn cyn i Michael Wilde sgorio gôl cysur i'r tîm cartref.