Teyrnged i Cpl Joshua Hoole fu farw yn Aberhonddu

Cpl Joshua Hoole Image copyright Facebook

Mae prif swyddog milwr fu farw ar ymarferiad yn Aberhonddu wedi dweud bod y catrawd yn "eithriadol o drist" o'i golli.

Bu farw'r Cpl Joshua Hoole, 26 oed o Lockerbie yn Yr Alban, ar gwrs hyfforddi ddydd Mawrth.

Roedd yn aelod o gatrawd y reifflau yng nghanolfan hyfforddi Catraeth.

Bydd prawf post mortem yn cael ei gynnal ddydd Gwener ac mae'r heddlu yn parhau gyda'u hymchwiliad.

Teyrnged

Dywedodd yr Uwchgapten Dean Murch: "Mae ei deulu wedi colli mab, brawd, darpar ŵr a ffrind arbennig.

"Ni fydd modd cysuro eu gofid."

Image copyright Athena

Roedd Cpl Hoole wedi gorffen taith wyth milltir pan lewygodd yng nghanolfan hyfforddi Dering Lines ychydig cyn 09:00.

Dydd Mawrth oedd diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 30C yn ardal Aberhonddu.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod ail filwr wedi gorfod mynd i'r ysbyty ar yr un diwrnod, ond ei fod bellach wedi'i ryddhau.

Dywedodd llefarydd nad oedd yr ail filwr yn rhan o'r un daith a Cpl Hoole.

Ymchwiliad

"Rydyn ni'n ceisio gwneud pob ymarferiad mor ddiogel ac sydd yn rhesymol bosib, tra'n sicrhau bod milwyr yn barod am yr heriau o amddiffyn y Deyrnas Unedig," meddai'r llefarydd.

"Ble fo'n ymarferol mae pob argymhelliad o gwestau diweddar wedi cael eu rhoi ar waith."

Mae'r Gweinidog Amddiffyn, Harriett Baldwin wedi dweud y bydd y weinyddiaeth yn cynnal ymchwiliad llawn i'r farwolaeth.

Image copyright Athena
Image caption Bu farw Cpl Joshua Hoole ar ôl dychwelyd i farics Sering Lines yn Aberhonddu

Straeon perthnasol