A fydd Angela Merkel yn crwydro mynyddoedd Cymru?

Llyn Glaslyn, Eryri Image copyright Kris Williams
Image caption A fydd Angela Merkel yn cael ei gweld yn troedio'r llwybr i fyny'r Wyddfa yn fuan?

Mae'n bosib y caiff cerddwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri sioc wrth weld Canghellor yr Almaen y tro nesaf iddyn nhw fynd am dro.

Wythnos yma bu'r Prif Weinidog Theresa May yn ymweld â Berlin ar gyfer trafodaethau ar Ewrop ag Angela Merkel.

Yn ystod yr ymweliad fe gyflwynodd hi sawl anrheg i Mrs Merkel, gan gynnwys llyfr am y llwybrau cerdded gorau gogledd Cymru.

Mae'r arweinyddion yn adnabyddus am eu hoffter o gerdded mynyddoedd pan ar wyliau.

Image copyright Getty Images
Image caption "Ble fyddech chi'n argymell i mi gerdded gyntaf felly, Theresa?"

Wrth i'r ddwy gyfarfod ddydd Mercher fe gyflwynodd Mrs May gopi o 'Great Mountain Days in Snowdonia' gan Terry Marsh wrth Ganghellor yr Almaen.

Cafodd Mrs Merkel hefyd gopi o lyfr Coast to Coast o 1973, sydd yn cynnwys llwybrau cerdded yng ngogledd Lloegr.

Dywedodd Jonathan Williams o Cicerone, y cwmni gyhoeddodd y llyfr am Eryri ei fod "yn chwilfrydig a llawn edmygedd" ar ôl clywed am anrheg Mrs May.

"Mae Eryri yn ddewis gwych ac os yw Mrs Merkel yn gallu dod o hyd i amser ar gyfer trip fe fydden ni wrth ein boddau yn sicrhau ei bod hi'n cael ymweliad gwych," meddai.