Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad difrifol yn Sir Gâr

heddlu

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Sir Gâr.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi cael eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 13:50 ddydd Gwener ar ffordd y B4302 rhwng Llandeilo a Talyllychau.

"Mae'r ffordd ar gau ac mae dargyfeiriadau yn eu lle. Ceisiwch osgoi'r ardal os gwelwch yn dda," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Mae dau ddyn arall hefyd wedi mynd i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad, ond does dim manylion pellach ynglŷn a'u hanafiadau ar hyn o bryd.