Morgannwg yn wyth olaf yr 20/20 ar ôl curo Gwlad yr Ha

morgannwg Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg yn wyth olaf yr 20/20 ar ôl curo Gwlad yr Haf o saith wiced yng Nghaerdydd.

Fe sgoriodd Colin Ingram 54 i'r tîm cartref a chipio tair wiced am 20.

Cafodd Morgannwg ddechrau da diolch i David Lloyd (28) a Mark Wallace (20) cyn i Ingram ac Aneurin Donald (44 heb fod allan) ychwanegu at y sgôr.

Fe sgoriodd Johan Myburgh 28 i'r ymwelwyr, yn ogystal â Josh Davey (23) tua'r diwedd.

Ond fe lwyddodd Morgannwg i gyfyngu Gwlad yr Haf i 152 i gyd allan.