Apêl am atgofion o'r colisewm yn Aberystwyth

Colisewm Image copyright Amgueddfa Ceredigion

Mae Amgueddfa Ceredigion yn apelio ar bobl i rannu'u hatgofion o hen golisewm yn Aberystwyth wrth iddyn nhw ddechrau ar brosiect i greu arddangosfa a ffilm newydd am ei hanes.

Y bwriad yw defnyddio'r atgofion i ysbrydoli cynllun y siop a'r caffi newydd, fel rhan o brosiect treftadaeth y loteri gwerth £1.3m.

Cafodd y Colisewm ei agor fel theatr ym 1905 cyn troi'n sinema ym 1933.

Caeodd ym 1976 ac ailagor fel Amgueddfa Ceredigion ym 1982.

Dywedodd y curadur, Carrie Canham: "Mae'r colisewm yn adeilad arbennig iawn ac mae ymwelwyr yn aml yn dweud wrthym fod ganddyn nhw atgofion hapus o ymweld â'r lle.

"Rydyn ni wedi dechrau cofnodi'r atgofion hynny i'r dyfodol, gan gynnwys rhai Walfor Hughes gafodd ei eni yn y 1920au, ac sy'n cofio gweld perfformiadau a sioeau llusernau hud, pan oedd dal yn theatr."

Image copyright Amgueddfa Ceredigion
Image caption Staff y sinema ym 1933

Un sy'n cofio ymweld â'r colisewm yn y 1970au yw arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn.

"Rwy'n cofio'n arbennig mynd i weld y ffilm Herbie Goes Bananas gyda fy ngŵr, Iolo oedd yn hoff o ffilmiau â faniau Volkswagen," meddai.

"Mae arna i ofn ein bod ni newydd ddychwelyd o'n gwyliau, ac fe gysgais drwy'r rhan fwyaf ohono.

"Mae yna lawer o hanes diddorol i'r adeilad a byddai'n braf petai'r gymuned leol yn rhannu eu straeon â ni."

Mae croeso i unrhyw un un sydd ag atgofion i alw yn yr amgueddfa rhwng 14:00 a 16:00, dydd Sadwrn 6 Awst.