Apêl wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Ddinbych

RTC Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A543 rhwng Bylchau a Dinbych

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i berson farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych nos Sadwrn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A543 rhwng pentref Bylchau a Dinbych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 18:00.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd, ond mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 a defnyddio'r cyfeirnod U108690