Gwahardd timau rygbi cyffwrdd am ymladd

One of the brawls Image copyright This is Swansea

Mae trefnwyr gŵyl rygbi cyffwrdd ar draeth Abertawe yn dweud eu bod wedi gorfod gwahardd pedwar clwb ar ôl i chwaraewyr ddechrau ymladd yn ystod gemau.

Cafodd dwy o gemau gwyl Beach Rugby Wales eu dirwyn i ben yn gynnar ac fe gafodd y timau eu diarddel o'r gystadleuaeth pan y bu'n rhai i swyddogion diogelwch a'r heddlu ymyrryd.

Chafodd neb ei arestio.

Roedd y timau'n dod o Lynrhedynog (Ferndale), Y Rhigos, Y Porth a Wattstown.

Mae fideo o'r ymladd wedi ymddangos ar y we.

'Gwahardd yn syth'

Dywedodd y trefnydd, Ashleigh Walters: "Dwi wedi dweud wrth y timau nad y'n ni'n diodde ymddygiad fel yna yn Beach Rugby Wales.

"Cafodd y timau eu gwahardd yn syth a fyddan nhw ddim yn cael gwahoddiad yn ôl yn y dyfodol agos.

Ychwanegodd: "Cafodd dros 70 o gemau eu chwarae a dim ond mewn dwy ohonyn nhw y buodd yna gythrwfl.

"Roedd y ddwy gêm yn gemau derby, gyda'r timau'n dod o fewn milltir i'w gilydd.

"Unwaith i'r dyfarnwyr ddod â'r gemau i ben, fe ysgwydodd y chwaraewyr ddwylo'i gilydd."