Morgannwg yn colli yn erbyn Gwlad yr Haf o 33 rhediad

Morgannwg Image copyright Rex Features
Image caption Llwyddodd Peter Trego i sgorio 80 yn y fuddugoliaeth yn erbyn Morgannwg

Colli oedd hanes Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yng ngystadleuaeth y Cwpan Undydd ddydd Sul.

Roedd yna dalcen caled yn wynebu chwaraewyr Morgannwg yn Taunton wedi i Wlad yr Haf orffen eu batio ar 322 am 7 wiced, gyda 80 o rediadau i Peter Trego.

Er i Forgannwg ddechrau'n yn addawol gyda 46 rhediad i David Lloyd, roedd yn ormod o fynydd i'w ddringo, ac roedd y tîm i gyd allan ar 279.

Golygfeydd gwahanol yn Taunton i'r rhai yn stadiwm Swalec nos Wener, felly, pan gurodd Morgannwg Gwlad yr Haf i gyrraedd wyth olaf cystadleuaeth yr 20/20.