Proffil mwy eang o bobl yn dod i'r brifwyl meddai'r trefnydd

Elen Elis Image copyright Wales news service

Mae mwy o bobl o gefndiroedd gwahanol yn dod i'r Eisteddfod Genedlaethol erbyn hyn meddai trefnydd y brifwyl.

Yn ôl Elen Elis mae'r newidiadau diweddar er mwyn moderneiddio'r eisteddfod yn talu ffordd ac maen nhw wedi gweld rhywfaint o newid ym mhroffil y bobl sydd yn dod i'r maes.

Mae nhw'n trio gwneud hynny yn flynyddol meddai ac yn rhywbeth maen nhw'n mesur: "Mae lot mwy o bobl ifanc yn dod i'r maes. Mae gennon ni Caffi Maes B ers rhai blynyddoedd."

"Mae pobl yn dod i Maes B, yn campio ac wedyn maen nhw hefyd yn dod i'r maes rŵan efo'r bandiau rownd eu garddyrnau. Maen nhw'n mwynhau'r profiad yna, yn y gorffennol doedd hynny ddim yn digwydd. Y Tŷ Gwerin, mae hwnna yn dod a fwy o bobl sydd yn ymddiddori yn y byd gwerin i'r eisteddfod."

Mae hefyd yn teimlo bod yna wahaniaeth yn yr hyn mae'r mudiadau yn cynnig: "Beth arall sy'n ddifyr ydy fod y cymdeithasau sydd yn dod i'r eisteddfod, y prifysgolion a phethau felly- maen nhw yn darparu arlwy mwy gwahanol rŵan, mwy difyr.

"Maen nhw eisiau harddu eu stondinau nhw a phethau felly. Felly mae pawb yn rhan o'r peth. Rydan ni yn gweld bod pobl o wahanol gefndiroedd yn dod i'r steddfod rŵan ac yn ymddiddori."

Eleni fe fydd yna bethau gwahanol i'w gweld ar y maes gan gynnwys Sinemaes fydd yn dangos ffilmiau a llecyn yn y coed lle y bydd digwyddiadau anffurfiol yn digwydd fel adeiladu cuddfan:

"Beth sydd yn dda pan ti mewn gŵyl a ti'n cerdded rownd y maes rŵan bod 'na bethe gwahanol, difyr i bobl o bob oed. Ti'n taro ar draws pethe gwahanol a falle bod ti heb feddwl fynd iddo fo ond ti'n meddwl, 'Www mae hwnna yn edrych yn ddifyr' a ti mynd. Mae hwnna yn bwysig dw i'n meddwl, yr elfen weledol a bod ti yn clywed rhywbeth gwahanol ac yn cael dy ddenu i fynd i wrando ac i'w weld o."

Image caption Darlun o'r pafiliwn newydd fydd i'w weld am y tro cyntaf eleni

Does yna ddim pafiliwn pinc y tro yma ond yn hytrach pafiliwn newydd, gyda'r tu fewn fel siâp theatr, y llawr yn galed a'r waliau yn fwy trwchus.

Yn ôl y trefnydd, fe fydd pawb yn gallu gweld y llwyfan yn well ac mae'n gobeithio y bydd pobl yn sylwi ar y gwahaniaeth yn ansawdd y sain a'r goleuo: "Ti mynd i deimlo yn lot fwy cyfforddus a fydd y gynulleidfa sydd yn mynd i mewn gobeithio yn teimlo bod o yn ardal fwy croesawgar.

"Pwy sydd ddim isio eistedd mewn sedd lle ti'n gallu gweld y llwyfan yn iawn, a does 'na ddim polyn o dy flaen di a bod y sain yn well. Dio'm yn posh na dim. Mae o yn ofod mwy safonol dw i'n credu."

Yn ogystal â'r pethau gweledol mae 'na newid hefyd o ran y cystadlaethau fel y gystadleuaeth gorawl: "Y syniad ydy bod y corau yn cefnogi eisteddfodau lleol Cymru a bod nhw mynd i gystadlu fanna ac wedyn os ydyn nhw'n cystadlu dwywaith fanna maen nhw yn dod trwodd i'r genedlaethol. Ac ar y dydd Sadwrn cyntaf mae 'na gystadleuaeth- maen nhw yn canu dwy gân gyferbyniol yn fanna."

Image caption Fe fydd bandiau fel y Candelas yn perfformio gyda cherddorfa yn y pafiliwn eleni

Mae 'na hefyd wobr ar gyfer y Gân Gymraeg Orau, newidiadau i'r rhuban glas ac fe fydd yr utgyrn yn fyw yn y seremonïau sydd ddim yn rhai gorseddol er mwyn "codi statws".

Dywed y trefnydd ei bod hi'n derbyn nifer o syniadau ar gyfer yr eisteddfod a bod yn rhaid pwyso a mesur yr hyn sydd yn bosib: "Dydy bob syniad ddim yn mynd i weithio.

"Dw i'n dysgu hynny yn ddyddiol ac mae pawb yn dysgu hynny wrth i'r eisteddfod ddatblygu. Mae'r gymuned, yr economi, gwleidyddiaeth- mae bob peth yn datblygu yn gyflym iawn dyddiau yma a rydan ni angen bod a'n bys ni ar y pỳls, bod ni yn symud gyda fo."