Gwrthdrawiad Aberaeron: Dynes ag anafiadau difrifol

heddlu

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 rhwng Llanarth ac Aberaeron ddydd Sul.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Volkswagon Polo coch a Vauxhall Zafira glas am tua 15:45.

Cafodd un ddynes ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol.

Fe gafodd bedwar arall eu cymryd i'r ysbyty gyda mân anafiadau ond maen nhw bellach wedi'u rhyddhau.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.