Gwrthdrawiad angeuol yn Sir Ddinbych

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i berson farw mewn gwrthdrawiad ger Bwlch Nant y Garth yn Sir Ddinbych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 02:00 wedi'r digwyddiad rhwng car a beic modur.

Cafwyd cadarnhad fod y beiciwr wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw ar 101.