Diswyddo dros 100 o weithwyr mewn ffatri yn y Bari

dow Image copyright Google

Bydd 115 o weithwyr yn colli eu swyddi mewn ffatri gemegau ym Mro Morgannwg.

Roedd tua 630 o bobl yn gweithio yn ffatri Dow Corning yn y Barri cyn y diswyddiadau, ac fe gyhoeddodd y cwmni gyfnod o ymgynghori ar ddyfodol y swyddi am 45 diwrnod ym mis Mehefin eleni.

Roedd cwmni Dow Chemical wedi cyhoeddi ar y pryd fod bwriad ganddyn nhw i gael gwared ar tua 2,500 o swyddi dros y byd, sef tua 4% o'r gweithlu.

Ail-strwytho

Bydd Dow yn uno â DuPont, yn dilyn cyhoeddiad wnaeth y ddau gwmni amaeth a chemegol ym mis Rhagfyr.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Dow Chemical nad yw'r diswyddiadau yn y Barri o ganlyniad i'r uno ond yn hytrach yn ganlyniad i ail-strwytho eu perchnogaeth o Dow Corning.

Fe ddechreuodd y gwaith o gynhyrchu silicôn ar y safle yn y Barri yn 1952, gan gwmni o'r enw Midland Silicones.

Mae gwefan Dow Corning yn ei ddisgrifio fel un o'r cyfleusterau sy'n "bell ar y blaen" i weddill o'i fath yn y byd.