Cwest: 'Marwolaeth ddamweiniol' ym Mheriw

Harry Greaves Image copyright Teulu Greaves

Mae cwest i farwolaeth dyn o'r canolbarth fu farw tra'n cerdded ym Mheriw, De America, wedi dod i'r casgliad ei fod wedi marw'n ddamweiniol.

Bu farw Harry Greaves, o Fronygarth ger Croesoswallt, ar 7 Ebrill eleni, a ni chafwyd hyd i gorff y dyn 29 oed am bythefnos wedi iddo ddiflanu ym mynyddoedd yr Andes.

Cafodd ei eni yn Y Waun, ger Wrecsam ond fe'i magwyd yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Iâl Wrecsam.

Cafodd y cwest ei gynnal yng Ngrhoesoswallt ddydd Mawrth.