Morgannwg yn colli i Essex yn y Cwpan Undydd

Colin Ingram Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Colin Ingram oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 107

Fe wnaeth Morgannwg golli eu trydedd gêm yn olynol yn y Cwpan Undydd nos Fawrth wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Essex mewn gêm agos yn Chelmsford.

Fe wnaeth Colin Ingram sgorio cant a David Lloyd, hanner-cant wrth i fatwyr yr ymwelwyr ddechrau'n gryf.

Ond fe orffennodd Morgannwg eu batiad yn wael a gosodwyd targed o 325 i Essex.

Roedd 99 gan Nick Browne a hanner-cant yr un gan Jesse Ryder a'r capten Ravi Bopara yn hanfodol i'r tîm cartref wrth iddyn nhw gyrraedd eu targed gyda phum pêl i'w sbario.