Cymru yn yr Oes Haearn

Dyma fel y byddai Bryn Eryr wedi edrych yn Oes yr Haearn
Image caption Dyma sut y byddai Bryn Eryr wedi edrych yn Oes yr Haearn. Bydd nifer o bobl wedi eu gwisgo yn nillad y cyfnod yn dehongli bywyd y cyfnod i ymwelwyr

Mae atyniad diweddara' Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru erbyn hyn ar agor i'r cyhoedd. Fferm o'r Oes Haearn yw Bryn Eryr. Mae'r adeilad yn ailgread o fferm fechan ger Llansadwrn yn nwyrain Ynys Môn.

Mae'r adeilad yn cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai sy'n chwe throedfedd o drwch, a thoeau gwellt siâp côn.

Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cannoedd o wirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol o Drelái a Chaerau. Dyma i chi gipolwg ar y gwaith o godi'r atyniad. Diolch i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am gael rhannu'r lluniau:

Image caption Dechrau'r daith - safle Bryn Eryr yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru
Image caption Paratoi'r tîr ar safle Bryn Eryr, fferm yn Ynys Môn sy'n deillio nol i'r Oes Haearn Newydd
Image caption Y safle yn cael ei farcio
Image caption Mi fedrwn ni weld siapiau'r waliau. Bydd dau dŷ crwn yn cael eu codi yma
Image caption Casglu gwellt ar gyfer Bryn Eryr
Image caption Mae hi fel cynhaeaf gwair!
Image caption Mae'r waliau yn codi'n araf
Image caption Y pensaer Gerallt Nash yn arwain y gwaith cynllunio
Image caption Mae angen hyfforddi nifer o wirfoddolwyr brwdfrydig
Image caption Bydd cannoedd o wirfoddolwyr gan gynnwys plant ysgol ac aelodau o gymunedau cyfagos Caerau a Trelai yn helpu gyda'r gwaith o godi Bryn Eryr
Image caption Mae symud y clai yn waith caled! Bydd 'na ddyfnder o chwe troedfedd i'r waliau felly mae angen cryn dipyn o glai!
Image caption Paratoi'r polion
Image caption Mae'r polyn canol wedi ei godi. Bydd modd gosod y tô gwellt cyn bo hir
Image caption Mae 'na gadernid i'r strwythur
Image caption Y tai yn barod i'w toi
Image caption Y tai crwn wedi eu cwblhau