Llwnc destun i'r gymuned

Mae'r gloch olaf wedi canu ar nifer o dafarndai Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Y llynedd roedd wyth tafarn yng Nghymru yn cau ei drysau bob wythnos yn ôl CAMRA, y grŵp sy'n ymgyrchu dros dafarndai cymunedol.

Ond mae un bragdy ym Mhowys wedi dangos bod hi'n bosib brwydro yn erbyn y llif a gwneud y dafarn yn ganolbwynt i'r gymuned unwaith yn rhagor.

Mae Brecon Brewers wedi agor tafarn eu hunain, 'Brecon Tap', diolch i help y we a'r gymuned leol. Bu Cymru Fyw yn clywed sut y daeth y prosiect i fodolaeth.


Image caption Tafarn 'Brecon Tap' gafodd ei hail-agor diolch i gymorth ariannu torfol

Buster, dewin y cwrw

Buster Grant yw'r bragwr sydd wedi datblygu Brecon Brewers a thra ei fod e'n datblygu'r cwrw rhoddodd y cyfrifoldeb o geisio sefydlu'r dafarn newydd yng ngofal Duncan Ward. Roedd gan Duncan chwarter canrif o brofiad yn y diwydiant tafarndai cyn symud i Bowys o East Anglia.

"Mae Buster yn arch-fragwr ac yn feistr ar ei grefft, a thrwy lwc yn ddigon craff i sylweddoli bod angen rhywun i edrych ar ôl yr ochr fusnes hefyd," meddai Duncan.

"Fe wnaethon ni gymryd adeilad ar stad ddiwydiannol yn Aberhonddu a phrynu cit ail-law oedd yn medru bragu 30 baril.

"Yn syth, dechreuodd cwrw Buster ennill gwobrau dros Brydain oherwydd ei safon a'i flas. Hon wrth gwrs yw ffactor bwysicaf ym mhoblogrwydd unrhyw fragwr.

"Tîm bach ydyn ni gydag un person yn gyfrifol am y cwrw, un yn rhedeg y busnes ac un yn gwerthu'r cwrw i dafarndai a siopau, felly rydyn ni'n medru rheoli safon y cwrw a'r gwasanaeth yn llawer gwell na'r bragwyr mawr."

Image caption Y bragdy

Felly, gyda'r bragdy'n gwneud yn dda a'r cwrw'n ennill gwobrau ac yn gwneud arian i'r cwmni, pam poeni mynd i'r drafferth o agor tŷ tafarn ar yr union adeg pan mae tafarndai'n ei chael hi'n anodd goroesi? Mae ateb Duncan yn syml.

"Mae'r bragdy'n berchen ar ei dafarn ei hun sy'n rhoi cyfle i ni werthu ac arddangos ein cynnyrch mewn modd sydd yn gyfan gwbl dan ein rheolaeth," meddai.

"Mae'n ffenest siop dda i'r cwrw ac yn gartref naturiol iddo, ac wrth gwrs, 'ryn ni'n gwneud mwy o elw drwy ei werthu'n uniongyrchol ein hunain yn hytrach na thrwy rywun arall."

Llafur cariad

"Mae agor eich tafarn eich hunain yn dipyn o lafur cariad ond mae'n gorfod talu ei ffordd," ychwanegodd Duncan.

"Mi 'naethon ni 'chydig o waith ymchwil ar ddemograffeg a ffactorau eraill perthnasol, a darganfod fod sail eithaf da dros agor rhywle yn lleol a'r unig elfen oedd ar goll oedd sut i dalu am y gwaith adnewyddu.

"Roeddwn i wedi cael gafael ar safle perffaith yng nghanol Aberhonddu ac wedi dechrau creu cynlluniau a darganfod costau adnewyddu. Roedd ariannu torfol yn opsiwn o'r cychwyn yn ein cynlluniau ond roedd hi'n amlwg nad oedd y dulliau confensiynol o ariannu torfol yn addas ar ein cyfer.

"Mae'r cwmnïoedd yn mynd â chanran o'r arian, ac os nad ydych chi'n cyrraedd rhyw darged, yna mae'n bosib na fydd eich cynllun byth yn gweld golau dydd.

"Ro'n i'n gweld hon yn ffordd eitha' amhersonol ac felly mi ddechreuon ni edrych am ffyrdd o godi cyllid o'r ffynonellau mwy confensiynol, a dyna pryd ges i'r syniad am ein cynllun unigryw ni."

Image caption Wrthi'n adnewyddu'r adeilad

Tafarn y bobl

Mae cefnogaeth y gymuned leol wedi bod yn allweddol i gael y fenter ar ei thraed, fel yr eglurai Duncan: "Cafodd pobl leol gynnig i gyfrannu arian tuag at greu 'Brecon Tap' mewn talpau o £100. Fe fydden nhw wedyn yn cael cerdyn aelodaeth ac mae'r cerdyn yn cael ei lwytho gyda hanner maint eu buddsoddiad, pob blwyddyn am bum mlynedd.

"Maen nhw wedyn yn medru defnyddio'r cerdyn i brynu nwyddau yn y dafarn neu nwyddau'r bragdy ar-lein.

"Mi wnes i ymgynghori gyda'r Awdurod Gwasanethau Ariannol (FSA). Mi wnaethon nhw roi'r golau gwyrdd i ni cyn belled nad oedden ni yn cynnig cyfranddaliadau na dividends. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gadw cofnodion manwl a sicrhau rheolaeth ariannol gadarn.

"Mi lwyddon ni godi dros 30% o'r costau adnewyddu trwy'r cynllun. Roedd hyn yn llawer mwy nag oedden ni wedi ei ragweld yn wreiddiol ac mae'n ffactor eithaf pwysig yn llwyddiant y busnes.

"Mae 'na lai o lôg i'w dalu i'r banc ac mae'r cynllun wedi creu pwll o gwsmeriaid ffyddlon fydd yn defnyddio'r dafarn yn aml am o leiaf bum mlynedd.

"Ry'n ni wedi agor ers mis Mawrth, ac mae'n rhaid i mi ddweud pob nos Wener a Sadwrn, dwi ddim yn credu y byddai'n bosib i ni fod yn llawer mwy prysur."

Image caption Croeso cynnes i'r 'Brecon Tap'