Adolygiad 'Y Llyfrgell'

Enillodd Fflur Dafydd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel 'Y Llyfrgell' yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 2009. Heno, nos Lun 1 Awst am 7.30pm, bydd cynulleidfa Gymraeg yn cael cyfle i weld addasiad ffilm o'r nofel am y tro cyntaf yn Sinema'r Fenni.

Mae Lowri Haf Cooke wedi bod i weld y ffilm yn barod. Dyma'i hadolygiad hi:


Image caption Catrin Stewart yn chware rhan yr efeilliaid Ana a Nan

Mae 'na rywbeth go ellyllaidd am efeilliaid, yn ôl mawrion y sinema. O chwiorydd sinistr 'The Shining' gan Stanley Kubrick hyd frodyr twyllodrus 'Dead Ringers' gan David Cronenberg, ceir enghreifftiau di-ri o ddihirod o'r un ŵy. Hyd yn oed â chomedïau, fel 'The Parent Trap' a 'Twins', llechai gyfrinachau lu islaw.

I'r canon o anfarwolion, cyflwynir Ana a Nan - gwrth-arwresau 'Y Llyfrgell' gan Euros Lyn. Dyma ffilm a greodd argraff fawr yng Ngŵyl Ffilm Caeredin ym Mehefin, ac sy'n agor ledled Cymru ym mis Awst. Mae'n addasiad o nofel gomig a hynod grefftus gan Fflur Dafydd, a gipiodd wobr Daniel Owen yn 2009. Ond peidiwch, beth bynnag wnewch chi, â'i hail-ddarllen cyn gweld y ffilm; y mae'n stori bur wahanol erbyn hyn.

"Ffilm sy'n gafael"

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Fflur Dafydd yn trafod y ffilm, Y Llyfrgell

Fe'm hudwyd yn llwyr gan y nofel gyfoethog honno, a'i chast o is-gymeriadau abswrd. Ond i'w throsi'n ffilm fawr, bu'n rhaid tocio, gwyrdroi, a ffocysu ar y ddwy brif gymeriad. Mae'r broses ei hun yn adlewyrchu un o brif themâu'r ffilm; sut mae straeon yn esblygu dros amser. Mae'n ffilm sy'n gafael yn gadarn tan yr olygfa olaf-ond-un, cyn cymryd un cam yn ormod, yn fy marn i.

Fe'n cyflwynir i'r ddwy chwaer, y llyfrgellwyr Ana a Nan, mewn agoriad eofn sy'n tanio'n chwilfrydedd. Dwy efaill unwy yn canfod eu mam - y nofelydd Elena Wdig (Sharon Morgan) - yn marw ger prom Aberystwyth. Fe neidiodd hi i'w marwolaeth o'i fflat fry uwchben; pam felly iddi yngan y geiriau olaf, 'Eben nath e'? Arweinia'r amwysedd at gynllun y ddwy i ddial ar gofiannydd tawedog eu mam, Dr Eben Prydderch (Ryland Teifi). Dilynwn noson dyngedfennol yn y Llyfrgell Genedlaethol, wrth i'r ddwy chwaer ddarganfod y gwir.

Ond fel y darganfuwn ni, mae gwahanol fersiynau o'r gwir i'w canfod yng nghrombil cof ein cenedl. Mae sefydliad eiconig y Llyfrgell Genedlaethol yn llwyfan sinematig perffaith i stori gyffro athronyddol.

Symud yn slic

Dan ofal hynod brofiadol y cyfarwyddwr Euros Lyn ('Happy Valley', 'Broadchurch', 'Doctor Who', 'Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw'), symud yn slic wna'r antur afaelgar drwyddi draw. A dwysáu wna'r dirgelwch i guriadau hypnotig seinlen electro-synthetig Dru Masters ('The Apprentice', 'Dispatches'). I goroni'r cyfan, yn weledol, mae sglein sylweddol i'r ffilm, diolch i gyfarwyddyd ffotograffiaeth cyfareddol Dan Stafford Clark a chynllunio treiddgar Thomas Pearce.

I genedlaethau o Gymry, hafan heddychlon, hamddenol yw'r 'Llyf Gen', ag yno agwedd 'mañana, mañana', dim-brys, dim chwys. Camp fwyaf y criw cynhyrchu yw troi'r sefydliad ar ei ben, wrth ei gyflwyno o'r newydd ar ffurf labyrinth arswydus. Does dim peryg, fodd bynnag, i'r tîm rheoli golli cwsg; mae'n hysbyseb fendigedig i bensaernïaeth clasurol Sidney Greenslade a chyffyrddiadau Art Deco Charles Holden.

Yn wir, mae modd meddwi'n llwyr ar gyffyrddiadau gweledol y cynhyrchiad, sy'n gyforiog o fanylion Cymraeg; o Gofeb Tryweryn, hen rifynnau cylchgrawn 'Lol' i res o Gyfansoddiadau amryliw - hyd at gyfeiriad at chwedl y 'Jack the Ripper' Cymraeg. Cyfosodir hyn oll â delweddau i godi ias, o'r angylion dialgar yn crwydro'r coridorau oeraidd; gyda dryll ym mhob llaw, a blows ysgarlad yr un, fel arwresau Tarantino neu Almodóvar.

Mae Catrin Stewart yn rhagorol fel Ana a Nan - rôl deublyg sy'n mynnu cryn gynildeb ganddi hi, a chyfarwyddo hynod grefftus gan Tim Hodges. Fe gydbwysa'n llwyddiannus rhwng yr efaill 'dda' a 'drwg', gan rannu'n cydymdeimlad rhwng y ddwy. Gyferbyn â hi, daw Dyfan Dwyfor ('Yr Ymadawiad') â chryn ysgafnder i'w ran fel Dan, y swyddog diogelwch direidus. Ganddo ef y mae rhai o berlau comig gorau y sgript, sy'n arbed y ffilm rhag troi yn felodramatig.

Er cystal actor yw Ryland Teifi, mae gen i ofn i rym ei ran, fel Dr Eben Prydderch, gael ei golli yn yr addasiad i'r sgrîn fawr. Yn y nofel drasi-comig, efe oedd yr arwr mawr abswrd; yma, mae'n llipryn ymylol mewn cymhariaeth. Ond hyd yn oed heb wybodaeth gefndirol o'r Eben a fu, ni wyddwn braidd dim amdano i falio rhyw lawer, tan ddatguddiad allweddol yr ail act. Mae'r un peth yn wir i raddau am yr efeilliaid enigmatig, gaiff gyfle i hawlio'u hunaniaeth eu hunain tua'r diwedd.

Image caption Ryland Teifi a Dyfan Dwyfor

"Edrych ymlaen at drafodaeth frwd"

Ond wrth i'r haenau o wirionedd gael eu datgelu bob yn dipyn, cynyddu'n raddol wnaiff rym emosiynol y ffilm. Ac er i'r cynhyrchiad wyro'n llwyr o stori'r nofel a'i diweddglo, cyrhaeddir crescendo nid anhebyg tua'i therfyn. Trueni felly i'r cynhyrchiad gyflwyno un datguddiad olaf, Christopher Nolan-aidd, sy'n taro'n chwithig ac sy'n bygwth tanseilio'r ffilm. Er yn asio â'r neges 'grym galar' a chloddio i haenau gwirioneddau, mae'r cynhyrchiad, i mi, yn datgymalu yn ei sgil. Efallai y bydd eraill yn anghytuno, o brofi'r première yn y Fenni - dwi'n dal i bendroni fy hun, gan edrych ymlaen at drafodaeth frwd!

Serch hynny, mae 'Y Llyfrgell' yn ffilm hyderus dros ben sy'n cynnig llwyfan i rai o dalentau gorau'r Gymraeg. Mae gofyn canolbwyntio'n llwyr i sawru sgript mor aml-haenog, ac mae 'na ffresni a chryn ffraethineb ar waith. Wrth i'r ffilm ddryllio ambell eicon, mae'n dyrchafu eraill fry uwchben, ac oherwydd hynny, mae'n hawlio'i lle yn y cof Cymreig.

Bydd Lowri Cooke yn arwain sesiwn holi gyda Fflur Dafydd ac Euros Lyn yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, nos Wener, Awst 5ed, yn dilyn dangosiad y ffilm.