Dysgwr y Flwyddyn: Adnabod Sarah

Dysgwr y Flwyddyn Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

Bydd pump yn cystadlu ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, sy'n cael ei gynnal yn Y Fenni ym mis Awst.

Enwau'r rheiny ddaeth i'r brig eleni yw Rwth Evans o Gaerdydd, Rachel Jones o Lanfair-ym-muallt, Naomi O'Brien o Fedlinog, Sarah Reynolds o Gaerfyrddin a Hannah Roberts o Frynmawr.

Yn ystod yr wythnos hon bydd y pump yn cael sylw ar Cymru Fyw a thro Sarah Reynolds yw hi ddydd Gwener.

Yn wreiddiol o Surrey, mae Sarah Reynolds bellach yn byw yng Nghaerfyrddin ers saith mlynedd, ac mae'n debyg taw cariad ddaeth a hi i Gymru, a'i harwain at ddysgu Cymraeg.

"Nes i briodi Cymro Cymraeg, dyna pam dwi yma," meddai. "Nes i gwrdd â fe ar blind date yn Llunden, a nath e ddysgu fi i ddweud 'prynhawn da' ar y date cyntaf hwnnw, a dyna lle ddechreuodd y cyfan i fi.

"O'n i'n deall o'r cychwyn pa mor bwysig odd yr iaith Gymraeg iddo fe, ac o'n i'n gwybod os oedd y berthynas 'na yn mynd i bara, os o'n ni'n mynd i aros gyda'n gilydd am byth, bydd rhaid i fi symud i Gymru, bydd rhaid i fi fagu ein plant yn Gymraeg, a byddai'n byw yng Nghymru am weddill fy oes."

Yn ôl gŵr Sarah, Geraint Huw, mae hi 'di dysgu'r iaith yn eithaf cyflym, oedd y beth syndod i'w deulu.

"Tra o'n ni'n byw yn Llunden, fi'n cofio odd Sarah yn gofyn lot o gwestiynau - beth yw'r gair am hwn, beth yw'r gair am hwnna - a o'n i'n synnu pa mor glou odd hi'n dysgu strwythur brawddegau.

"Fi'n cofio eithon ni mas am bicnic teulu rhywbryd, odd fy mrawd na a'i deulu e, a odd Sarah yn cerdded mlan i flan pawb, yn martsio mlan, jest yn gweud 'jiw jiw', ac o'n ni ond wedi bod yn mynd mas am gwpwl o fisoedd, siŵr o fod, a'm mrawd yn troi ato i fel, 'pwy yw hon sy'n dysgu Cymraeg mor glou?'.

'Bedydd tân'

Cynhyrchydd teledu yw swydd Sarah, ac fe wnaeth gweithio i gwmni Cymraeg eu helpu i ddysgu'r iaith.

"O'n i'n gweithio i gwmni teledu Telesgop yn Abertawe, lle mae 90% o'r bobol 'na yn siarad Cymraeg, felly doedd neb yn siarad Saesneg da fi, odd ychydig bach fel gwneud Cwrs Wlpan.

"Bedydd tân yn llwyr, ond odd e'n gweithio, oherwydd yn y flwyddyn honno fi'n credu, o'n i'n gallu cyfathrebu, o'n i'n gallu gweud beth o'n i angen dweud, er o'n i'n neud llwyth o gamgymeriadau yn amlwg.

"Un tro nes i ffono lan boi, o'n i moyn iddo fe neud eitem ambyti adar a nythod, ond yn anffodus nes i ofyn iddo fe neud yr eitem yn noeth!"

Ar hyn o bryd mae Sarah'n cymryd seibiant o'i gwaith fel cynhyrchydd, ac yn gwneud MA mewn ysgrifennu creadigol.

Dros y blynyddoedd mae gafael Sarah ar yr iaith wedi tyfu i'r pwynt lle ma hi bellach wedi 'sgwennu llyfr yn y Gymraeg.

"Felly fi 'di joio sgwennu erioed, a fi di sgwennu'n Saesneg ers blynydde, ond fi wedi dechrau sgwennu'r Gymraeg erbyn hyn," meddai.

"Mae blog da fi, 'Saesneg yng Nghymru', a fi'n sgwennu colofn ar gyfer y papur bro lleol sef 'Cwlwm', a fi newydd sgwennu nofel fer yn y Gymraeg sef 'Dysgu Byw' sy'n seiliedig ar fy mhrofiade ac anturiaethau wrth ddysgu'r iaith Gymraeg."

Mewn cyfnod byr mae bywyd Sarah wedi newid yn gyfan gwbl.

"Pan o'n i'n 25 mlwydd oed, o'n i ddim hyd yn oed yn gwybod bod yr iaith Gymraeg yn bodoli, felly fi wedi dod yn bell iawn, a byddai byth wedi dychmygu fy hunan yn byw yng Nghymru, yn magu fy mhlant trwy gyfrwng y Gymraeg, yn gweithio yn y Gymraeg ac yn sgwennu yn Gymraeg, felly fi yn falch iawn o'r cyfleoedd."