Diffodd tân 'bwriadol' yng nghanol Caerdydd

tan Image copyright Oliver Martin

Cafodd paneli rwber yng nghanol Caerdydd eu rhoi ar dân yn fwriadol, meddai'r Gwasanaeth Tân.

Cafodd y diffoddwyr eu galw i'r lleoliad ger Trebiwt ychydig ar ôl 18:00.

Deellir mai nifer fawr o baneli rwber ar Sgwar Callaghan oedd wrth wraidd y tân, ac roedd dau griw o ddiffoddwyr a'r heddlu ar y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân bod dau beiriant wedi eu defnyddio i geisio taclo'r broblem.

Roedd mwg du i'w weld ar draws y brifddinas nos Fercher.

Image copyright Oliver Martin
Image caption Y mwg o Fae Caerdydd