Dysgwr y Flwyddyn: Adnabod Rachel

Dysgwr y Flwyddyn Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

Bydd pump yn cystadlu ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, sy'n cael ei gynnal yn Y Fenni ym mis Awst.

Enwau'r rheiny ddaeth i'r brig eleni yw Rwth Evans o Gaerdydd, Rachel Jones o Lanfair-ym-muallt, Naomi O'Brien o Fedlinog, Sarah Reynolds o Gaerfyrddin a Hannah Roberts o Frynmawr.

Yn ystod yr wythnos hon bydd y pump yn cael sylw ar Cymru Fyw a thro Rachel Jones yw hi ddydd Iau.

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

Mae Rachel Jones, merch fferm 25 oed o bentref Llanafan Fawr ger Llanfair-ym-muallt, wedi dychwelyd i'w hen ysgol er mwyn cyd-weithio ochr yn ochr â'r athro wnaeth ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf.

Fe wnaeth hi astudio Cymraeg Ail Iaith i Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-muallt a'i athro Steve Mason - wnaeth ddysgu Cymraeg fel oedolyn - oedd yr ysbrydoliaeth iddi fynd ymlaen i geisio dod yn rhugl yn yr iaith.

"Roeddwn i'n lwcus iawn i gael athro oedd wedi ysbrydoli fi i ddechrau dysgu Cymraeg," meddai.

"Roedd e hefyd wedi dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Llambed, dyn lleol yw e, Steve Mason, a wnaeth e fy ysbrydoli i.

"Os oedd e'n gallu dysgu siarad Cymraeg, roeddwn i'n gallu hefyd. Mae fy nhad-cu hefyd yn siarad Cymraeg, yr unig un yn y teulu sy'n siarad Cymraeg, felly mae'n teimlo'n ryw fath o ddyletswydd i ddysgu'r iaith a ffeindio hanes fy nheulu sydd wedi mynd ar goll efallai."

'Lwcus dros ben'

Aeth Rachel ymlaen i astudio Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a byw yn Neuadd Pantycelyn - ac mae'n dweud mai yno y llwyddodd i ddod yn rhugl ar ôl cwrdd â ffrindiau o Sir Gâr ac Ynys Môn.

Ond, meddai, doedd pethau ddim yn hawdd iddi ym Mhantycelyn ar y dechrau...

"Rwy'n cofio'r noson gyntaf ym Mhantycelyn, doeddwn i ddim yn deall gair oedd unrhyw un yn dweud!

"Fi'n cofio eistedd ar y gwely a chrio. Ro'n ni eisiau mynd adref. Doeddwn i ddim yn gallu deall unrhyw un.

"Ond ro'n ni'n lwcus dros ben i gwrdd â chriw, y rhan fwyaf ohonyn nhw o Sir Gaerfyrddin ac mae 'na gwpl yn dod o Ynys Môn.

"Roedden nhw wedi edrych ar fy ôl i a siarad Cymraeg gyda fi drwy'r amser. Ar ôl tair blynedd o glywed yr iaith pob dydd ro'n ni wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Roedd Pantycelyn yn bwysig dros ben."

Mae dysgu Cymraeg yn golygu ei bod yn gallu defnyddio'r iaith gyda'i thad-cu, yr unig aelod arall o'i theulu sy'n medru siarad Cymraeg.

"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn achos fi'n gallu cysylltu gyda fy nhad-cu," meddai. "Mae e'n siarad Cymraeg ac yn byw mewn tŷ gofal nawr felly fi'n gallu mynd i ymweld â fe.

"Dim ond Cymraeg mae'n siarad, felly fi'n teimlo'n lwcus mai fi yw'r person sy'n gallu siarad Cymraeg gyda fe.

"Mae'n rhywbeth eithaf arbennig i fi. Dwi wedi ffeindio ffrindiau anhygoel trwy siarad Cymraeg a chysylltu gyda byd arall do'n ni ddim yn gwybod oedd yna. Gwell Cymraeg llac na Saesneg slic."