Dyn, 18, wedi marw ar ôl i gar daro tŷ yng Ngheredigion

A487 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487 yn Rhydgaled

Mae dyn 18 oed wedi marw yn yr ysbyty wedi i gar daro tŷ yng Ngheredigion bythefnos yn ôl.

Roedd y dyn yn teithio mewn Citroen C3 glas wnaeth daro tŷ oddi ar yr A487 yn Rhydgaled am 02:15 ar ddydd Gwener, 15 Gorffennaf.

Bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys dorri tri pherson o'r cerbyd ac fe gafodd y tri eu cymryd i'r ysbyty - dau ohonyn nhw gydag anafiadau difrifol.

Mae'r dyn 18 oed bellach wedi marw yn yr ysbyty.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod dyn 24 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus yn parhau ar fechnïaeth.