Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl defnyddio Taser arno

Ffordd Bryniau Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd y Bryniau nos Fercher

Mae dyn 24 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl i'r heddlu ddefnyddio gwn Taser arno nos Fercher.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i ardal Ffordd y Bryniau yn Llandudno am 22:15 wedi adroddiadau bod gan ddyn gyllell.

Fe wnaeth yr heddlu ddefnyddio gwn Taser ar y dyn, ac wrth wneud fe wnaeth y dyn ddisgyn a chael anaf i'w ben.

Cafodd ei drin yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond fe wnaeth ei gyflwr waethygu dros nos ac mae bellach yn Ysbyty Stoke.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod yr achos wedi ei gyfeirio at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Mae'r Ditectif Prif Arolygydd Jason Davenport wedi gwneud apêl am wybodaeth: "Rydyn ni'n deall bos aelodau o'r cyhoedd yng Nghwrt Bryniau, ger Ffordd y Bryniau, pan oedd swyddogion ar y safle.

"Hoffwn apelio i unrhyw dystion gysylltu gyda'r heddlu ar 101 gan roi'r cyfeirnod U111039."