Astudiaethau Celtaidd: Barn un o'r myfyrwyr olaf

Prifysgol Rhydychen Image copyright Jeff Overs / BBC

Gall y criw presennol o fyfyrwyr sy'n gwneud astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen fod yr olaf i wneud hynny yn dilyn gohirio'r penderfyniad i adfer y Gadair Geltaidd yno.

Mae'r adran Ieithoedd Modern yn wynebu gorfod casglu tua £3m er mwyn achub dyfodol rhai cyrsiau.

Yn sgil yr amheuaeth am y dyfodol, bu Llewelyn Hopwood - sy'n astudio Sbaeneg a Chelteg yno - yn sôn wrth Cymru Fyw am ei brofiadau:


'Yr hen elyn'

Yn araf deg mae'n edrych yn fwyfwy tebygol mai fi, ac un myfyriwr arall, fydd yr olaf i astudio'r pwnc israddedig ieithoedd a llenyddiaeth Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen ar ei wedd bresennol - am gyfnod o leiaf.

Ar hyn o bryd, dwi ar drothwy fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Sbaeneg a Chelteg yng Ngholeg Iesu ac wrth fy modd yn twrio trwy'r hyn sydd gan Sbaeneg, Cymraeg Ganol a Hen Wyddeleg i'w cynnig.

Yr hen elyn, diffyg arian, sydd ar fai. Felly hyd nes y bydd digon yng nghyfrif yr adran i ariannu swydd Athro llawn (y 'gadair' Geltaidd), bydd dim modd astudio Celteg fel myfyriwr israddedig yn y Brifysgol.

Ond 'dyw'r adran ddim am ddiflannu'n gyfan gwbl o bell ffordd gan ei bod hi dal yn bosib dilyn cwrs ôl-raddedig yma, boed hynny'n gwrs meistr neu ddoethuriaeth.

Wrth drafod y newyddion yn un o gylchgronau myfyrwyr Rhydychen, cyfeiriodd Emily Dixon at y profiad anesmwyth o orfod cyfiawnhau pwnc academaidd - profiad sy'n gynyddol gyffredin i adrannau bach prifysgolion, gan gynnwys yr un dan sylw.

Image caption Oes dyfodol i astudiaethau am Culhwch a chymeriadau eraill y Mabinogion ym Mhrifysgol Rhydychen?

Unigryw

Y flwyddyn ddiwetha' roedd dau fyfyriwr israddedig, dwy yn gwneud y cyrsiau meistr, a tri yn gwneud doethuriaeth, yn ogystal â thipyn mwy yn gwneud modylau Celtaidd fan hyn a fan draw yn yr adrannau Hanes, Saesneg ac Ieithyddiaeth.

O ran y cwrs israddedig, fel gyda phob pwnc iaith yn Rhydychen, does fawr o ddewis yn y flwyddyn gyntaf er mwyn rhoi tir cadarn dan draed y myfyriwr. Mae'n rhoi cyfle iddo edrych ar ystod eang y pwnc, cyn mynd ati i ddewis agweddau penodol ohono yn hwyrach ymlaen.

Yn y flwyddyn gyntaf felly, yn ogystal â thorri asgwrn cefn gramadeg Cymraeg Ganol a Hen Wyddeleg (ffurfiau canoloesol yr ieithoedd sy'n cael eu siarad heddiw) rhaid astudio'r Mabinogi, y Gogynfeirdd, Dafydd ap Gwilym, y Cywyddwyr a barddoniaeth a dramâu'r 20fed ganrif.

Yr hyn sy'n gwneud Rhydychen yn unigryw yw nid yn unig y system diwtorial, sef yr hyn sy'n galluogi myfyrwyr y brifysgol i gael gwersi un wrth un gyda'r tiwtor ddwy neu dair gwaith yr wythnos, ond y ffaith fod Celteg yn rhan o'r gyfadran Ieithoedd Modern a Chanoloesol yma - hynny yw, rhaid astudio Celteg gydag un iaith fodern arall.

Yng Nghymru ac Iwerddon, rhan o'r adrannau Cymraeg neu Wyddeleg yw'r pwnc, ac yn y llond llaw o brifysgolion sy'n cynnig Celteg tu hwnt i Brydain ac Iwerddon - e.e. Harvard, Marburg ac Utrecht - adran ar wahân yw Celteg.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Llewelyn Hopwood, un o'r myfyrwyr olaf, yn siarad ar Taro'r Post ar BBC Radio Cymru

Hyd yn oed yng Nghaergrawnt lle ceir y cwrs mwyaf tebyg i'r Gelteg sy'n cael ei dysgu yn Rhydychen, mae'r pwnc yn rhan o'r radd ASNAC (Anglo-Saxon, Norse and Celtic), sy'n rhan o'r gyfadran Saesneg.

Mae hyn yn adlewyrchu sut mae'r iaith a'r llên dan sylw yn cael eu trin mewn ffordd wahanol, ffordd Ewropeaidd ac ar lwyfan ryngwladol yn Rhydychen.

Ac felly er bod rhai yn synnu fod modd astudio 'Sbaeneg a Chelteg', credaf fod medru astudio un o ieithoedd mwyaf poblogaidd y byd ar un llaw, ac ieithoedd sydd wedi hen farw ac esblygu ar y llaw arall, yn creu cwrs unigryw ac arbennig.

Y llwybr iaith

Rhaid cyfaddef fod y cwrs yn medru bod yn heriol tu hwnt ar adegau. Pe bai cist drysor gyda'r label 'Arian mawr i adran Gelteg Rhydychen' arno yn dod i'r wyneb, hoffwn weld y cwrs yn cael ei addasu ychydig (er, dwi ddim yn siŵr sut).

Ar hyn o bryd, rhaid dysgu'r ddwy iaith ganoloesol Geltaidd, a phe bai rhywun heb unrhyw Gymraeg yn penderfynu dewis Celteg, byddai rhaid iddyn nhw hefyd ddysgu Cymraeg 'gyfoes' ar ben hynny - Cymraeg 'Gyfoes', Cymraeg Ganol, Hen Wyddeleg yn ogystal â'r iaith fodern arall! Dwi'n gredwr mawr mewn anelu'n uchel, ond o bosib fod pedair iaith mewn un flwyddyn academaidd braidd yn uchelgeisiol?

Ond wedi dweud hynny, Hen Wyddeleg yw y pwnc ar gyfer unrhyw un sy'n ymddiddori mewn ffiloleg.

Image caption Prifysgol Rhydychen

Nid yn unig dyma un o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd mwyaf dryslyd o ran gramadeg (yn ôl pob sôn), ac felly dylai concro hwn roi'r myfyriwr mewn lle da i herio ieithoedd eraill, ond mae ei hastudio hefyd yn dangos ieithyddiaeth hanesyddol ar waith mewn modd creadigol gan fod corpws llenyddol Hen Wyddeleg mor gyfoethog ac eang.

Dyna beth mae'r rhan hwn o'r cwrs yn Rhydychen yn ei fagu - ffordd o feddwl sy'n cydblethu'r driniaeth o iaith fel gwyddoniaeth ac iaith fel un o'r dyniaethau. Nid mater o bori trwy lyfrau gramadeg sych yw'r cwrs (er mae'n anochel weithiau rhaid cyfaddef), ond darllen llenyddiaeth o wahanol oesau a'u cymharu.

Wrth roi manteision ieithyddol y pwnc i un ochr, fel Cymro, credaf fod y dywediad 'cas gŵr na charo'r wlad a'i maco' yn chwarae rôl bwysig yn y rhesymau dros ddewis astudio Celteg.

Credaf yn gryf mai un o'r ffyrdd y gellir ceisio gwneud pen a chynffon o Brydain ac Iwerddon yw trwy astudio'r hanes. Ond mae yna lwybr arall - llwybr iaith.

At hynny, mae astudio'r ieithoedd sydd ac a fu'n atseinio ar hyd y tiroedd hyn law yn llaw gydag iaith gyfoes, wahanol, yn ein hatgoffa nad iaith genedlaethol yw'r Gymraeg a'i phobl, ddoe a heddiw, ond iaith a phobl ryngwladol.