Angladd milwr fu farw wrth hyfforddi ger Aberhonddu

josh Image copyright Wales News Service

Mae angladd milwr fu farw wrth hyfforddi yn ardal Aberhonddu wythnos yn ôl wedi ei gynnal yn yr Alban.

Roedd y Corpral Josh Hoole, 26 oed, yn dod o Ecclefechan ger Lockerbie ac yn aelod o gatrawd Y Reifflau yng Nghanolfan Hyfforddiant Catraeth yng ngogledd Lloegr.

Roedd wedi gwneud prawf ffitrwydd wyth milltir ac wedi cyrraedd yn ôl i ganolfan hyfforddiant Derling Lines yn Aberhonddu pan gafodd ei daro'n wael.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ganolfan ar 19 Gorffennaf.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r farwolaeth ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd wedi dweud y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad llawn.

Daeth y digwyddiad yn dilyn marwolaeth tri milwr wrth hyfforddi gyda'r SAS yn y Bannau yn 2013.

Image copyright Athena