Troseddwr o Gaernarfon i drosglwyddo £30,000 o asedau

Gavin Thorman Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae troseddwr o Gaernarfon wedi cael gorchymyn i drosglwyddo £30,000 o'i asedau i'r awdurdodau.

Cafodd Gavin Thorman, 37 oed, ei garcharu am 12 mlynedd ym mis Ebrill y llynedd am ei ran mewn cynllwyn i ddosbarthu cyffuriau yng ngogledd Cymru.

Tra roedd yn y carchar roedd yn credu na fyddai neb yn ei ddeall yn siarad Cymraeg mewn sgyrsiau ffôn o garchar Altcourse yn Lerpwl, ond roedd y galwadau'n cael eu recordio a'u cyfieithu.

Fe wnaeth yr heddlu feddianu car, van a chwch cyflym fel rhan o'u hymchwiliad i'r troseddau ag i asedau Thorman.

Yn y carchar roedd wedi brolio am ei gysylltiadau newydd yn y byd troseddol, gan drafod cyffuriau a dweud ei fod am adael y carchar a "gwneud miliynnau".

Roedd wedi dweud wrth ei gariad: "Dim ond dedfryd fach ydw i'n ei wneud felly ni fydda nhw'n gwrando ar fy ngalwadau".

Roedd Ymgyrch Yonside gan Heddlu Gogledd Cymru, arweiniodd at garcharu Thorman a 26 aelod arall o'i gang troseddol, yn un o'r ymgyrchoedd mwyaf erioed o'i fath yn y gogledd, ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i werth bron i £200,000 o gocên a chanabis.

Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Daeth yr heddlu o hyd i gwch fel rhan o'u hymchwiliad