Hinkley Point: Cwmni yn cymeradwyo buddsoddiad

hinckley point

Mae buddsoddiad ar gyfer dechrau datblygu pwerdy niwclear newydd cyntaf y DU ers 20 mlynedd, a hynny yn Hinkley Point, Gwlad yr Haf wedi ei gymeradwyo gan ddatblygwr y cynllun.

Daeth y penderfyniad mewn cyfarfod bwrdd y cwmni ynni Ffrengig EDF nos Iau.

Bydd goblygiadau Hinkley Point C i dde Cymru, gyda'r Barri 14 milltir a Chaerdydd 19 milltir i ffwrdd ar draws afon Hafren.

EDF fydd yn ariannu y rhan fwyaf o'r prosiect gwerth £18bn.

Yn dilyn cytundeb nos Iau, fe fydd contractau cyfreithiol rhwymol yn cael eu llofnodi, fel y gall y gwaith adeiladu'r pwerdy ddechrau.

Mae gwaith cloddio wedi dechrau ar y trydydd adweithydd ar yr arfordir, ac fe allai'r cynllun arwain at filoedd o swyddi fyddai o fantais i Gymru meddai datblygwyr.

Ond mae na oblygiadau amgylcheddol hefyd, gyda'r gwastraff ymbelydrol yn cael ei gadw ar y safle am rhwng 100 a 160 o flynyddoedd, neu tan y bydd safle newydd yn cael ei glustnodi i gadw holl wastraff niwclear Prydain - yn hen wastraff neu'n wastraff newydd fydd yn dod o orsafoedd niwclear Wylfa Newydd, Oldbury a Sizewell.

Dywed Nigel Cann, cyfarwyddwr adeiladu EDF Energy yn Hinkley Point C, fod yr orsaf newydd wedi ei dylunio i oroesi gwrthdrawiad gydag awyren, ac fe fydd mur 14m o uchder rhag y môr yn cael ei adeiladu hefyd.

"Rydym yn adeiladu o fewn canrannau diogelwch - ar gyfer 10,000 o flynyddoedd ac ar gyfer materion ychwanegol fel cynhesu byd eang", meddai.

Dywedodd fod 850,000 awr wedi mynd ar waith peirianyddol a bod fframwaith annibynol gref yn ei lle i sicrhau fod y dyluniad yn "ddiogel ac yn darparu tawelwch meddwl i'r cyhoedd."

Adeiladu

Unwaith y bydd yr arian yn ei le, bydd yn cymryd 10 mlynedd a 10m tunell o goncrid - 75 gwaith yn fwy na'r hyn gafodd ei ddefnyddio i adeiladu Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd - i'w adeiladu.

Ac fe fydd cyfleoedd am waith i weithwyr o Gymru, gyda rhai yn teithio yno yn barod.

Ond mae gwrthwynebwyr ynni niwclear yn dadlau fod dwy orsaf niwclear sy'n cael eu datblygu gan gwmni EDF yn y Ffindir a Ffrainc yn cael eu hadeiladu'n hwyr a thros eu cyllidebau.

Mae mudiad Greenpeace yn un sy'n gweithredu'n erbyn ynni niwclear gan ei fod yn "risg annerbyniol i'r amgylchedd ac i ddynoliaeth".

Mae'r Athro Karen Henwood o Brifysgol Caerdydd wedi astudio cymunedau sy'n byw ger gorsafoedd niwclear mawr.

"Mae'r ystyriaethau technegol yn golygu y gall pobl deimlo fel eu bod ar ei hôl hi am eu bod yn teimlo'n anghyfforddus nad oes ganddyn nhw ddigon o wybodaeth", meddai.

"Ac mae lleisiau moesegol gwahanol i'w clywed", ychwanegodd.