Heddlu'n atal gêm griced yng Nghaerdydd

heddlu Image copyright Jo Morgan

Roedd rhaid atal y chwarae mewn clwb criced yng Nghaerdydd ddydd Gwener wrth i'r heddlu ddilyn pobl sy'n cael eu hamau o ddwyn car.

Fe wnaeth swyddogion redeg ar gae Clwb Criced Radur, gan atal y chwarae yn erbyn tîm MCC, wrth iddyn nhw ddilyn llanciau yr oedd yr heddlu yn credu oedd wedi dwyn car BMW llwyd.

Bu chwaraewyr a chefnogwyr yn gwylio wrth i swyddogion redeg ar draws y cae chwarae ac i'r cae nesaf.

Daeth yr heddlu yn ôl rhai munudau'n ddiweddarach wedi arestio sawl llanc.

Roedd adroddiadau bod ceir yr heddlu yn dilyn y BMW ar draws barc yn Llandaf yn gynharach, a bod hofrennydd yn dilyn o'r awyr.

Dywedodd Jo Morgan o'r clwb criced: "Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen. Dydyn ni ddim yn gweld yr heddlu yma fel arfer."