Yr actores Honeysuckle Weeks 'wedi'i chanfod yn saff'

Honeysuckle Weeks

Mae'r actores Honeysuckle Weeks wedi cael ei chanfod "yn saff" ar ôl bod ar goll, yn ôl yr heddlu.

Fe ryddhaodd Heddlu Sussex apêl ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn ddydd Gwener yn gofyn iddi gysylltu â nhw, wedi iddi fynd ar goll o'i chartref yn Sussex.

Mae'r actores 36 oed, gafodd ei geni yng Nghaerdydd, wedi ymddangos mewn rhaglenni megis Foyle's War, a'r ffilm My Brother Tom.

Mae'n briod ac mae ganddi un plentyn, ac fel myfyrwraig fe astudiodd Saesneg yn Rhydychen.

Roedd hi wedi mynd ar goll o'i chartref ger Pentworth, rhwng Chichester a Horsham.

Ond yn hwyr nos Wener fe gadarnhaodd yr heddlu fod yr actores wedi cael ei chanfod yn saff, a'i bod hi gyda nhw.