Caerlŷr yn rhoi cytundeb newydd i Andy King

Andy King Image copyright Getty Images

Mae chwaraewr Cymru Andy King wedi arwyddo cytundeb newydd â Chaerlŷr nes 2020.

Roedd y chwaraewr canol cae yn aelod pwysig o garfan y clwb wrth iddyn nhw gipio Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

Mae wedi bod gyda'r clwb ers naw mlynedd ac wedi chwarae 331 o gemau dros y clwb gan sgorio 59 o weithiau.

Fe yw'r chwaraewr canol cae sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau yn hanes y clwb, ac mae hefyd wedi ennill y Bencampwriaeth a Chynghrair Un gyda Chaerlŷr.

Roedd yn rhan o garfan Cymru yn Euro 2016, ac fe ddaeth ymlaen fel eilydd yn y gemau yn erbyn Rwsia a Gwlad Belg.

Fe ddechreuodd yr ornest yn erbyn Portiwgal yn y rownd gynderfynol, gan ennill ei 36ed cap.

Mae asgellwr Cymru George Williams, 20, hefyd wedi ail-ymuno â MK Dons ar fenthyg o Fulham ar gyfer y tymor i ddod.