Coleman ymysg y ffefrynnau i fynd i Hull City

coleman Image copyright Getty Images

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, ymysg y ffefrynnau ar gyfer swydd prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Hull City.

Mae'n debyg fod trafodaethau wedi digwydd rhwng y clwb a Coleman, a wnaeth arwyddo cytundeb newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Mai.

Fe wnaeth Coleman arwain ei wlad i rownd gynderfynol Euro 2016, a dywedodd yn ddiweddar y byddai'n parhau yn y swydd hyd at ddiwedd ymgyrch Cwpan y Byd 2018.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Nid ydym wedi bod mewn unrhyw gyswllt gyda'r clwb ynglŷn â'r swydd yma.

"Mae pob trafodaeth gyda Chris wedi bod ar sut y gallwn symud ymlaen ar ôl Ewro 2016."