Gwyn Thomas wedi dylanwadu ar iaith y beirdd cyfoes

Sesiwn

Fyddai beirdd Cymru ddim yn gallu defnyddio'r Gymraeg fel y maen nhw heddiw "heb gyfraniad Gwyn Thomas" yn ôl Jason Walford Davies.

Roedd yn siarad yn ystod sesiwn yn y Babell Lên i gofio'r bardd Gwyn Thomas.

Dywedodd yr academydd a'r bardd, oedd hefyd wedi cydweithio gyda Gwyn Thomas yn yr adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ei fod wedi llwyddo i "ddemocrateiddio" barddoniaeth wrth gadw safon a'i fod yn ymwybodol iawn o'r perygl i lastwreiddio'r iaith.

Yn ôl yr Athro Gerwyn Wiliams nid dim ond gadael ei ôl ar farddoniaeth Vers Libre wnaeth o: "Mae rhywun yn meddwl am Gwyn fel bardd yn y mesurau rhydd ond dw i'n meddwl bod ei ddylanwad o wedi ymestyn tu hwnt ac wedi bod yn ddylanwad mawr ar ganu caeth."

Image caption Gwyn Thomas yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd

Disgrifiodd Gruffydd Aled Williams, Gwyn Thomas fel "dyn go arbennig". Byddai'r ddau yn cael sgyrsiau am "bethau bob dydd" meddai.

Dywedodd Gerwyn Wiliams y byddai yn dod i'w dŷ bob Nadolig gydag anrhegion i'w blant: "Fydda fo ddim yn aros yn hir, jest galw yn y drws. Ac mi oedd hynny yn cyfleu ei garedigrwydd o, ei ddynoliaeth o a hefyd ei ddiddordeb ysol o mewn plant."

Dywedodd y bardd Karen Owen fod ganddo ddiddordeb ym mhob math o bethau: "Oedd y byd i gyd, y cosmos o ddiddordeb i Gwyn Thomas ac mi oedd o hefyd yn rhannu hyn i gyd."

Roedd gwneud yn siŵr bod beirdd yn barod i drafod unrhywbeth yn bwysig iddo meddai Gerwyn Wiliams: "Roedd yn sarsio ni bod 'na ddim agweddau, ardaloedd na ddylai barddoniaeth Gymraeg fynd i'r afael a nhw."

Yn ystod y sesiwn fe soniwyd am ei ddiddordeb ym myd y ffilmiau a chwaraeon.

Roedd Jason Walford Davies yn cofio mynd i chwarae tennis gydag o: "Ath unrhyw gyfeillgarwch allan o'r ffenestr yn syth ac am yr awr a hanner fuo ni yn chwarae tennis roedd elyniaeth hynod o gystadleuol yn bodoli dros y rhwyd."

Stori debyg oedd gan Gruffydd Aled Williams: "Odd o'r math o fowliwr oedd yn anelu mwy at y cricedwr na'r wiced."

Roedd yn ddyn oedd yn gosod safonau meddai'r pedwar.

Mae Karen Owen yn ei gofio yn atal y wobr mewn cystadleuaeth lenyddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd ei fod yn medru bod yn ddiamynedd wrth feirniadu: " 'Does 'na ddim byd yn hon', a hynny ar ôl un darlleniad yn aml… Os oedd o ddim yn gafael y tro cyntaf, dosbarth 4 amdani."

Er bod yna ddoniolwch yn ei gerddi, dywedodd Gruffydd Aled Williams ei fod yn "ddyn dwys yn y bôn" ac roedd marwolaeth yn thema mawr yn ei waith.

Jason Walford Davies oedd yn cael y gair olaf ac wrth gloi dywedodd bod ei ddylanwad ar y Gymraeg wedi bod yn enfawr:

"Mae gyda ni duedd i anghofio pa mor chwyldroadol, hanfodol fu Gwyn ers yn gynnar iawn, iawn. Hebddo fe fydda'r Gymraeg ddim fel mae heddiw."