Yr Orsedd: Galw ar Arfon Wyn i ail-feddwl

arfon wyn
Image caption Mae Arfon Wyn wedi penderfynu ildio ei wisg wen

Mae Cofiadur Gorsedd y Beirdd, Y Prifardd Penri Roberts wedi galw ar y cerddor Arfon Wyn i ail-ystyried ei benderfyniad i adael yr Orsedd.

Ar ei dudalen Facebook, fe gyhoeddodd Mr Wyn ei fod yn protestio oherwydd fod y sefydliad wedi "gwrthod rhoi clod dyladwy i dîm pêl-droed Cymru".

Mae Mr Wyn yn mynd ymlaen i ddweud: "Gyda thristwch rwyf i, Arfon Wyn, yn rhoi fy anrhydedd o Wisg Wen yn ôl i'r Orsedd. Mae gen i gywilydd o'u penderfyniad cibddall."

Roedd yn ymateb i sylwadau'r Archdderwydd a ddywedodd nad oedd modd llacio'r rheol iaith er mwyn derbyn aelodau.

'Heb wrthod neb'

Ond yn ôl Penri Roberts, tydi'r Orsedd heb "wrthod neb" gan fod y drefn o gyflwyno urddau wedi cau ers mis Chwefror eleni.

"'Dwi isho pwysleisio'r faith nad ydi'r Orsedd wedi gwrthod neb, mae gan bob aelod yr hawl i enwebu pobl ar gyfer anrhydeddau, gan gynnwys Arfon Wyn petai'n dymuno gwneud hynny.

"A dwi'n gobeithio y gwneith o ail-ystyried ei benderfyniad i ildio'i aelodaeth, oherwydd yn syml 'does 'na ddim un o garfan Cymru wedi eu gwrthod, a 'da ni gyd yn falch iawn o'u perfformiad ac yn ymhyfrydu yn eu llwyddiant.

"Ers i mi fod yn Gofiadur yr Orsedd [saith mlynedd yn ôl] nid oes neb wedi ildio eu haelodaeth o'r Orsedd o'r blaen."

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Nid oes gan yr Eisteddfod unrhyw sylw i'w wneud ar y mater hyn.

"Ymddiswyddo o'r Orsedd y mae Arfon Wyn wedi ei wneud ac felly mater i'r Orsedd yw hyn."

Mae'r Eisteddfod wedi pwysleisio bod "Gorsedd y Beirdd yn gorff sydd ar wahân i'r Eisteddfod Genedlaethol, er bod cysylltiad agos rhwng y ddau sefydliad".

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y Gymraeg i'w gweld ar grysau'r tîm wrth i'w siwrne nhw yn Euro 2016 ddod i ben

Yn y cyfamser, dywedodd cyn-aelod o fwrdd yr Eisteddfod, Catrin Stevens y byddai hi'n hoffi gweld Cymry Cymraeg y tîm pêl-droed yn cael eu hurddo yn 2017.

Yn ôl rheolau'r Orsedd dim ond siaradwyr Cymraeg sydd yn cael eu hystyried yn gymwys i gael eu hurddo.

Byddai hynny'n cynnwys sawl aelod o garfan bêl-droed llwyddiannus Cymru yn Euro 2016 megis Joe Allen, Ben Davies, Aaron Ramsey, David Vaughan ac Owain Fôn Williams, a staff fel Osian Roberts ac Ian Gwyn Hughes.

Ond doedd dim posib i unrhyw un ohonyn nhw gael eu henwebu ar ôl eu llwyddiant yn Ffrainc eleni gan fod y broses enwebiadau wedi cau ym mis Chwefror.

Dywedodd Catrin Stevens y byddai'r Eisteddfod ym Môn yn 2017 yn gyfle gwych i gydnabod rhai ohonynt.

'Rheol gadarn'

"Mae'n rhaid i bobl eu henwebu nhw, dydyn nhw ddim jyst yn gallu cerdded i mewn," meddai'r awdur a'r hanesydd wrth BBC Cymru Fyw.

"Ond dwi yn meddwl ei bod hi'n annheg ar yr Orsedd. Mae rheol, mae'n rheol gadarn, mae'n rheol bwysig, mae'n rhaid iddyn nhw fod wedi'u henwebu mewn pryd, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn siarad Cymraeg. Mae'n rheol mae pawb yn ei derbyn.

"Dwi ddim eisiau gweld torri'r rheol... [ond byddai'n braf gweld] pawb sy'n siarad Cymraeg yn y tîm [yn cael eu hurddo], a bydd y lleill yn dysgu [Cymraeg] wedyn falle!"

Image caption Catrin Stevens yw awdur 'Stori'r Gymraeg', cyfrol sydd yn trafod hanes yr iaith