Y Prifardd Gwynn ap Gwilym wedi marw

Y Parchedig Gwynn ap Gwilym Image copyright Eglwys yng Nghymru

Bu farw'r Prifardd Gwynn ap Gwilym yn 66 oed.

Fe'i ganwyd ym Mangor a'i fagu ym Machynlleth.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Abergwaun yn 1986, a hynny am ei awdl ar y testun Y Cwmwl.

Cyhoeddodd dair cyfrol o gerddi, Y Winllan Werdd, Gwales ac Yr Ymyl Aur.

Ar y cyd gydag Alan Llwyd, golygodd y Flodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif.

Dywedodd Garry Nicholas, Llywydd Llys yr Eisteddfod: "Trist oedd clywed am farwolaeth Gwynn ap Gwilym heddiw. Bu'n fawr ei gyfraniad i fywyd diwylliannol ei ardal a Chymru dros y blynyddoedd.

"Anodd yw credu ei bod hi'n ddeng mlynedd ar hugain ers iddo gael ei Gadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, a thrist yw ei golli yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni."

Yn y saithdegau bu Gwynn ap Gwilym yn ddarlithydd yn Adran Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol Prifysgol Iwerddon, Corc ac fe oedd cyd-olygydd y cylchgrawn Barn rhwng 1979 ac 1981.

Darlithio

Graddiodd mewn diwinyddiaeth ganol yr wythdegau cyn dechrau gweithio fel clerigwr yn yr Eglwys yng Nghymru, gan wasanaethu fel curad ym Mhorthmadog a rheithor ym Mallwyd.

Am gyfnod bu'n ddarlithydd mewn Hebraeg ac Astudiaethau Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth.

Cyfieithodd y Salmau Cân, a litwrgi'r Eglwys yng Nghymru i'r Gymraeg.

Yn 2014 fe'i penodwyd gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn Ganon metrowleidyddol yn esgobaeth Llandaf.

Roedd y penodiad hwn yn gydnabyddiaeth o'i waith ar draws Cymru.

Teyrnged Archesgob Cymru

Wrth roi teyrnged i'r Parchedig Gwynn ap Gwilym, dywedodd Dr Barry Morgan: "Pan dwi'n meddwl am Gwynn ap Gwilym, dwi'n meddwl am lyfr ysgrifennodd Bedwyr Lewis Jones - Yr Hen Bersoniaid Llengar.

"Roedd yn ysgolhaig, gwych o offeiriad. Mi wnaeth o ysgrifennu cyfrol ar gyn-reithor Mallwyd, lle'r oedd o ei hun yn rheithor wrth gwrs - dyn oedd wedi cyfieithu'r Beibl.

"Mi wnaeth ennill y Gadair yn y Steddfod, ysgrifennu am farwolaeth ei dad, ac wrth gwrs fe gyfieithodd y Salmau o'r Hebraeg gwreiddiol mewn barddoniaeth fel petai.

"Defnyddio felly ei ysgolheictod fel arbenigwr ar Hebraeg, a hefyd y ddawn oedd ganddo fel bardd, a hefyd ei ddawn o fod yn Gymro glân, ac mae'r Salmau wedi eu gosod ar emyn donau adnabyddus.

"Felly mae'n dyled ni fel Eglwys iddo yn enbyd.

"Roedd o hefyd yn swyddog eciwmenaidd yr Eglwys yng Nghymru, ac yn swyddog Cymraeg yr Eglwys yng Nghymru, ac fe oedd yn cyfieithu popeth i ni.

"Mae'r golled yn enbyd ar ei ôl, ac rwy'n galaru drosto. Roeddwn yn esgob arno pan oeddwn yn Esgob Bangor, ac wedyn yn esgob arno pan ddes i Landaf lle'r oedd yn Ficer Dewi Sant a Pen-y-fai ac wedyn yn gweithio yn yr eglwys ganolog."

Cytûn

Gwasanaethodd Gwynn ap Gwilym hefyd fel aelod o fwrdd Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru)

Dywedodd ei gyfaill a'i gyd-weithiwr yno, y Parchedig Aled Edwards: "Mi fydd yn golled fawr i Gymreictod yr Eglwys yng Nghymru a hefyd i'r mudiad eciwmenaidd yng Nghymru a hefyd yn rhyngwladol.

"Fe fyddwn ni i gyd yn colli ei waith litwrgaidd, diwinyddol ac eciwmenaidd o."

Mae'n gadael gwraig, Mari, a'i frawd y Parchedig Ifor ap Gwilym. Bu farw ei chwaer, Lona Jones yn 2015.