Y Lle Celf gydag Angharad Pearce Jones

lle celf

Wrth i'r Lle Celf agor ar y Maes, yr artist Angharad Pearce Jones aeth draw i gael cip olwg ar yr arlwy eleni ar ran Cymru Fyw:

Mae'r babell yn wahanol, mae'r detholwyr yn wahanol ac mae'r arddangosfa'n wahanol, ond mae un ffaith yn parhau, Y Lle Celf yw ein horiel gelf gyfoes genedlaethol am un wythnos bob blwyddyn; detholiad tri arbenigwr gwadd, a gywasgodd 260 o geisiadau i 26, ar gyfer cynulleidfa eang yr Eisteddfod Genedlaethol.

Does byth thema benodol i'r arddangosfa ond mae atseiniau anochel rhwng gweithiau celf, sy'n awgrymu meddylfryd y tri beirniad ar adeg y dethol. Mae pensaernïaeth, er enghraifft, yn cael ei ddyfynnu sawl tro.

Yng ngwaith buddugol Lisa Krigel, sy'n mynd a'r fedal aur am grefft, gwelwn grochenwaith wedi troi'n gerfluniau trefol. Pentyrrau o lestri'n ffurfio adeiladau, wedi eu hysbrydoli nid yn unig gan ei phlentyndod yn yr Efrog Newydd, ond gan bensaernïaeth fodernaidd Ewropeaidd. Pan ddatgysylltwch yr holl elfennau unigol, dyma lestri cwbl ddefnyddiol ar gyfer amser te, cinio neu swper.

'Hyder'

Yn y prif fynediad, mae gwaith Kelly Best yn cyferbynnu hyder a maint strwythurau wedi eu hadeiladu gyda chynildeb darlunio; miloedd o linellau pensil lliw ar wal ffug, crwn. Yn pwyso'n ddi-hid ar wal arall mae gwaith Mark Houghton, sy'n mynnu cyswllt gweledol gyda'i amgylchedd pensaernïol newydd, yn yr un modd y mae unigolyn wedi cael ei ffurfio gan gyd-destun ei brofiadau a'i berthynas ag eraill.

Ym mhennau moel Tom Pitt mae'r sied zinc a thalcen dyn yn ymuno yn ei atgofion; dim byd mwy cymhleth na'i weledigaeth bersonol ef o'r byd o'i amgylch. Fe welwn yr agwedd uniongyrchol, wreiddiol yma tuag at ryw beth, neu ryw ddigwyddiad, dro ar ôl tro, ym mhortreadau unigryw Jack Burton o'i eiddo cyn iddo orfod eu taflu o'r neilltu neu hanesion Neil McNally o'r band Badfinger neu'r beirniad celf, Brian Sewell, yn prynu tâp o straeon Sherlock Holmes ganddo mewn siop yn y Fenni.

'Trawiadol'

Enillydd y fedal aur am gelf gain, fodd bynnag, sy'n creu'r gwaith gosod mwyaf trawiadol o'i fyfyrdodau personol. Mewn du a gwyn, ar ffilm 16mm, gyda dim ond sain rhythm y projectors, mae ffilmiau Richard Bevan mwy fel barddoniaeth neu ffotograffiaeth llonydd na ffilmiau traddodiadol ac maen nhw yn ein gorfodi i aros, i sefyll, i wylio, mewn ffordd nad yw'r ddelwedd symudol yn gadael i ni wneud bellach.

Mae man cychwyn i bob darn ond dim stori benodol ac yn y diffyg hwnnw mae Richard Bevan yn gweld y posibiliadau i chi'r gynulleidfa lenwi'r bylchau, i fod yn greadigol.

Celf Gymreig?

Ydi'r Lle Celf yn enghraifft o gelf Gymreig? O arddull Gymreig? Dim yn arbennig. Does dim mwy yn glynu'r holl unigolion yma at ei gilydd na'r ffaith eu bod yn Gymry, yn blant i Gymry neu'n digwydd bod yn byw a gweithio yng Nghymru am fwy na tair blynedd, tipyn bach fel ein tîm pêl-droed!

O'r man cychwyn hynny mae eu diddordebau mor amrywiol â'r olygfa drwy'r ffenestr i athroniaeth a gwleidyddiaeth byd eang. Ond wrth edrych dim pellach na'u milltir sgwâr, mae gwaith celf sawl un yn dweud cyfrolau am Gymru heddiw. Defaid Robert Davies, portreadau anhygoel a phensil, sy'n rhoi ystyriaeth brin i anifeiliaid wedi eu magu ar gyfer cynhyrchu bwyd ond yn ein hatgoffa o'r gost i'r amgylchedd o ymestyn y borfa i dir uchel ar gyfer y brid cadarn yma.

Darluniau gwlân Paul Emmanuel sy'n cymryd brandio anifeiliaid fferm a phaent i lefelau gweledol unigryw. Ffilm Gwenllian Llwyd, enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc eleni, sy'n dogfennu dirywiad cynulleidfaoedd ac adeiladau capeli Ceredigion ac yna haenau cyfoethog ffilm Annie Grove-White am effaith Atomfa Niwclear Wylfa ar dirlun a phobl Ynys Môn.

'Naws tawelwch'

Fy ffefryn oll, fodd bynnag, yw gwaith yr artist ifanc, hefyd o Ynys Môn, Beth Elen Roberts, sy'n cynnal traddodiad amaethyddol ei theulu yn yr unig ffordd mae hi'n ei wybod bellach, trwy gelf. Gyda'r gwaith gradd a enillodd radd dosbarth cyntaf iddi o Goleg Celf Chelsea eleni, mae hi'n ail-lunio hen offer llaethdy ei thylwyth mewn cerfluniau pren unlliw, teyrnged i draddodiad na ellir ei chynnal mwyach.

Mae 'na naws tawelwch cyn y storm am arddangosfa eleni. Crëwyd y gwaith i gyd dros y blynyddoedd diwethaf a gyda'r dyddiad cau ar 1 Mawrth, nid yw Brexit wedi cyffwrdd yr artistiaid yma mewn pryd. Rwy'n tybio, fodd bynnag, bydd arddangosfa blwyddyn nesaf yn gwbl, gwbl wahanol.