Morgannwg yn colli'n drwm

criced Image copyright Huw Evans picture agency

Colli'n drwm o 186 o rediadau oedd hanes Morgannwg yn erbyn Hampshire yn y gystadleuaeth undydd ar Faes Sain Helen yn Abertawe.

Liam Dawson gyda 100 o rediadau oddi ar 68 o beli - gan gynnwys chwech oddi ar y bel olaf - oedd y seren gyda Wil Smith hefyd yn cyfrannu 84 wrth i'r ymwelwyr gyrraedd cyfanswm o 316-5.

Fe gollodd Morgannwg chwe wiced o fewn 12 pelawd a dim ond Craig Meschede gyda 45 o rediadau wnaeth unrhyw gyfraniad o bwys.

Fe fydd Morgannwg yn gorffen eu hymgyrch yn y gystadleuaeth gyda gem oddi cartref yn Surrey ar ddydd Llun 1 Awst.