Gemau Olympaidd Rio: Y Cymry sy'n cystadlu ddydd Sadwrn

Image copyright Getty Images

Bocsio

Enw: Joe Cordina

Camp: Bocsio pwysau ysgafn (60 cilogram) - Rownd gyntaf

Dyddiad geni: 1 Rhagfyr, 1991

Man geni: Caerdydd

Anrhydeddau: Pencampwr amatur Ewrop 2015, Pencampwr Gemau'r Gymanwlad 2014

Mae'r paffiwr 24 oed yn rhannu cyfleusterau ymarfer yng Nghasnewydd gyda nifer o enwau amlwg - Lee Selby, Fred Evans, Sean McGoldrick ac Andrew Selby.

Enw: Geraint Thomas

Camp: Ras ffordd

Dyddiad geni: 25 Mai, 1986

Man geni: Caerdydd

Anrhydeddau: Ar y trac: Pencampwr Olympaidd ras ymlid tîm 2008 a 2012, pencampwr ras ymlid tîm y Byd 2007, 2008 a 2012. Ar y ffordd: Pencwmpwr ras ffordd Gemau'r Gymanwlad 2014, enillydd ras Paris-Nice 2016, enillydd Tour Algarve 2015 a 2016.

Mae Thomas yn ceisio sicrhau ei le fel athletwr Olympaidd mwyaf llwyddiannus Cymru ers 96 o flynyddoedd, ac mae'n gobeithio ennill ei drydedd fedal aur Olympaidd yn olynol yn Rio. Ond mae disgwyl iddo helpu Chris Froome i'r fedal aur, fel y bu'n gwneud yn y Tour de France. Ef oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 2014 ac mae'n rhannu ei amser rhwng Caerdydd a Monaco. Mae ganddo gi o'r enw Blanche, ac yn ddiweddar mae wedi prynu plasty rhestredig Gradd II yn ne Cymru sydd ar gael ar gyfer priodasau.

Rhwyfo

Enw: Victoria Thornley

Camp: Parau rhwyfo - Rownd gyntaf

Dyddiad geni: 30 Tachwedd, 1987

Man geni: Llanelwy

Anrhydeddau: Efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd 2011 a Phencwmpwriaethau Ewrop 2015

Y cyn farchog a model oedd y person cyntaf i ennill medal ar ôl graddio o gynllun rhwyfo 'Cewri Chwaraeon' pan fu hi'n fuddugol ym Mhencampwriaethau dan-23 y Byd yn 2009. Bydd hi'n rasio gyda Katherine Grainger, sy'n amddiffyn y fedal aur wnaeth hi ennill yn Llundain.

Enw: Chris Bartley

Camp: Pedwarawd pwysau ysgafn - Rownd gyntaf

Dyddiad geni: 2 Chwefror, 1984

Man geni: Wrecsam

Anrhydeddau: Pencwmpwr y Byd 2010, medal arian yng Ngemau Olympaidd 2012

Mae'r gŵr 32 oed wedi bod yn rhan o bedwarawd Prydain ers 2009 ac roedd yn rhan o'r tîm ddaeth o fewn eiliad i ennill medal aur yng ngemau Llundain. Bartley, wnaeth astudio bioleg ym Mhrifysgol Nottingham, yw un o rwyfwyr mwyaf profiadol carfan Prydain.

Rygbi 7-pob-ochr

Enw: Jasmine Joyce

Gemau: Prydain v Brasil; Prydain v Japan

Dyddiad geni: 9 Hydref, 1995

Man geni: Tyddewi

Joyce yw'r unig chwaraewr o du allan i Loegr yng ngharfan 7-pob-ochr merched Prydain. Cafodd hi ei galw i garfan Cymru ar ôl creu argraff i Bontyclun a'r Scarlets, ac mae hi wedi cymryd seibiant o'i hastudiaethau prifysgol i ganolbwyntio ar ei gyrfa rygbi.