Gemau Olympaidd Rio: Y Cymry sy'n cystadlu ddydd Sadwrn

Image copyright Getty Images

Treiathlon

Enw: Non Stanford

Dyddiad geni: 8 Ionawr, 1989

Man geni: Abertawe

Anrhydeddau: Pencampwr cyfres treiathlon y byd ITU 2013, Pencampwr treithalon y byd dan-23 2012

Cafodd Stanford ei dewis gan y pencampwr Olympaidd, Kelly Holmes fel seren ar gyfer y dyfodol pan oedd hi yn rhedwr addawol yn ei harddegau. Fe wnaeth hi newid i ganolbwyntio ar y treiathlon wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer ym Mhrifysgol Birmingham. Hi yw'r ail ffefryn i ennill aur yn Rio, y tu ôl i Gwen Jorgensen o'r Unol Daleithiau.

Enw: Helen Jenkins

Dyddiad geni: 8 Mawrth, 1984

Man geni: Elgin, Yr Alban (yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr)

Anrhydeddau: Pencampwr cyfres treiathlon y byd ITU 2008 a 2011

Mae Jenkins yn un o athletwyr mwyaf dibynadwy Prydain, gan orffen ar y podiwm yng nghyfres treiathlon y byd ar fwy o achlysuron nag unrhyw ddynes arall o Brydain. Bydd hi'n cymryd rhan yn ei thrydydd Gemau Olympaidd eleni, a hi yw'r trydydd ffefryn ar gyfer y treiathlon, felly mae gobaith y bydd dwy Gymraes ar y podiwm yn Rio.