Croesawu ffoaduriaid i faes yr Eisteddfod yn y Fenni

Mogdad Abdeen
Image caption Mogdad Abdeen, ffoadur o Syria, yn diolch am y croeso yn yr Eisteddfod

Mae criw o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru wedi cael eu croesawu i'r Eisteddfod.

Cafodd yr ymweliad ddydd Llun ei drefnu gan Oxfam Cymru fel cyfle i gael blas o ddiwylliant Cymru.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones yno hefyd i'w hannerch ar stondin Llywodraeth Cymru ar y maes.

"Mae gan Gymru hanes hir o estyn croeso cynnes i geiswyr lloches a ffoaduriaid o bedwar ban byd," meddai.

'Methu stopio dysgu'

Un o'r rheiny ar y maes heddiw oedd Rayan, 9 oed, sydd wedi symud gyda'i fam Fanta o Draeth Ifori i ardal Y Sblot yng Nghaerdydd.

Maen nhw wedi bod yng Nghymru ers bron i dair blynedd ac fe ddywedodd Rayan, sydd yn hoff o bêl-droed, mai crysau cochion Cymru oedd ei dîm bellach.

"Mae'n hwyl, dwi'n mwynhau e yma, mae lot i wneud a dwi methu stopio dysgu!" meddai.

"Dwi'n dysgu pethau gan fy ffrindiau a dwi'n dysgu pethau iddyn nhw hefyd, fel Ffrangeg."

Image caption Cafodd y gynulleidfa eu cyfarch gyda chân gan Rakan, sydd yn wreiddiol o Syria

Mae'r chwiorydd Heba, 11 oed, a Sara, 9 oed, hefyd wedi bod yn byw yn y brifddinas ers dwy flynedd a hanner ers dod i Gymru o Irac.

"Roedd popeth yn wahanol iawn pan wnaethon ni gyrraedd, ond nawr 'dyn ni wedi arfer gyda fe," meddai Heba.

"Dwi'n hoffi Caerdydd, mae'n llai ac yn neis o'i gymharu â dinasoedd eraill ym Mhrydain."

Image caption Mae ffoaduriaid yn gwneud "cyfraniad gwerthfawr" i gymdeithas Cymru, yn ôl Carwyn Jones

Yn ôl Nidal, wnaeth ffoi o ddinas Aleppo yn Syria gyda'i deulu bedair blynedd yn ôl, maen nhw bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru ac mae ei ddwy ferch wedi gwneud ffrindiau yma yn yr ysgol.

"Roedd e ychydig yn anodd ar y dechrau, ond roedd Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi bod yn dipyn o help. Nawr rydyn ni wedi setlo'n dda," meddai.

"Bydd ffoaduriaid eraill hefyd yn teimlo'n gartrefol yma os yw pobl yn estyn croeso iddyn nhw."

Ychwanegodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth siarad yn y digwyddiad ei bod hi'n bwysig i Gymru roi cefnogaeth i'r rheiny oedd wedi gorfod dianc o'u cartrefi oherwydd rhyfel neu drychinebau.

"Rydym yn ymrwymedig i'w helpu nhw i ail-adeiladu eu bywydau, gan gydnabod y llu o sgiliau y maent yn dod gyda nhw i Gymru a'r cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud i'n cymdeithas," meddai Carwyn Jones.