Surrey v Morgannwg: Dim canlyniad oherwydd glaw

Jason Roy Image copyright Getty Images

Doedd dim canlyniad yng ngêm Morgannwg yn erbyn Surrey ddydd Llun oherwydd glaw yn Yr Oval yn Llundain.

Fe wnaeth y tîm cartref gyrraedd 157-1 o fewn 19 pelawd gyda Jason Roy yn sgorio 93 o 67 pêl i Surrey.

Ond nid oedd mwy o chwarae yn y gêm undydd wrth i'r glaw gyrraedd ychydig cyn 15:30.

Rhoddodd y timau'r gorau i'r chwarae am 19:25.