Yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies wedi marw yn 93 oed

Gwilym Prys Davies

Mae'r gwleidydd a'r cyfreithiwr, Yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies wedi marw yn 93 mlwydd oed.

Gydol ei oes, gweithiodd Yr Arglwydd Prys-Davies i hybu achos datganoli.

Fe wnaeth hynny'n bennaf fel rhan o'r Blaid Lafur wedi iddo adael Plaid Cymru yn 1949.

Gwilym Prys Davies oedd ymgeisydd y Blaid Lafur yn isetholiad Caerfyrddin yn 1966 pan etholwyd Gwynfor Evans yn AS cyntaf Plaid Cymru.

Yn y 70au daeth yn gynghorwr arbennig i'r Ysgrifennydd Gwladol John Morris ac yn 1982 fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi ble bu'n llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru, iechyd a Gogledd Iwerddon.

Hanes cynnar

Ganed Gwilym Prys Davies ar 8 Rhagfyr 1923 yn Llanegryn, Meirionnydd.

Gwasanaethodd yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Wrth adlewyrchu ar y cyfnod hwnnw ar raglen Beti a'i Phobl, dywedodd: "Rwy'n meddwl 'mod i wedi dysgu un egwyddor bwysig iawn gyda'r llynges - hynny yw yr egwyddor o ufudd-dod personol, ufudd-dod i ddyletswydd, ac mae honno wedi bod yn egwyddor llywodraethol arna i fyth ers hynny."

Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yno cyfarfu â Llinos Evans. Bu'r ddau'n briod am dros 50 mlynedd ac roedd Gwilym Prys Davies yn cydnabod ei "ddyled fawr iawn" iddi.

Dechreuodd weithio fel cyfreithiwr ym Mhontypridd yn 1956.

Gadael Plaid Cymru

Roedd Gwilym Prys Davies yn aelod o Blaid Cymru, cyn gadael y blaid wedi i grŵp gweriniaethol yr oedd e'n ei gefnogi fethu mewn ymgais i newid polisi'r blaid.

Bu'n weithgar gyda'r gweriniaethwyr am saith mlynedd nes i'r mudiad ddod i ben. Dychwelodd nifer o gyn aelodau'r grŵp i gorlan Plaid Cymru ond ymaelodi â'r Blaid Lafur wnaeth Gwilym Prys Davies.

Image caption Gwilym Prys Davies, ar y dde, oedd un o gyflwynwyr rhaglen Cenedl Hollt yn 1965

Dywedodd am Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, Jim Griffiths: "Roedd yna arwyddion ei fod o'n deall pryder y Cymry am fodolaeth eu cenedl.

"Roedd yna ddigon o dystiolaeth ei fod o'n ddatganolwr, ac roedd o'n godwr pontydd."

Isetholiad Caerfyrddin

Safodd Gwilym Prys Davies fel ymgeisydd Llafur yn isetholiad Caerfyrddin yn 1966 yn erbyn arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans - y gŵr a oedd wedi trechu ymdrechion y gweriniaethwyr i newid cyfeiriad Plaid Cymru.

Roedd yr isetholiad wedi ei alw wedi marwolaeth Megan Lloyd George. Roedd Gwilym Prys Davies wedi ymgyrchu drosti yn ystod yr etholiad cyffredinol 15 wythnos ynghynt.

Yn ei hunangofiant, 'Llafur y Blynyddoedd' dywedodd: "Ni wyddwn ei bod yn marw o'r canser nes imi ddychwelyd i'm llety ar ôl cynnal cyfarfod ola'r etholiad."

Curwyd y Llafurwr ifanc yn yr isetholiad gan Gwynfor Evans, wrth i AS cyntaf Plaid Cymru gael ei ethol.

Wrth adlewyrchu ar y canlyniad, ysgrifennodd Gwilym Prys Davies: "Roedd y ddedfryd pan ddaeth yn oriau mân y bore, er nad yn gwbl annisgwyl, yn ergyd.

"Trwy drugaredd deallwn yn iawn y gorfoledd ar sgwâr Caerfyrddin am fod Gwynfor i mewn.

"Ac er iddo ennill ar fy nhraul, gwyddwn na fedrwn fyth fod yn llai o Gymro."

Datganoli

Wedi'r canlyniad dywedodd: "Roedd ynof ysfa i atgyfnerthu'r datganolwyr yn y Blaid Lafur Seneddol Gymreig", gyda'r nod o gyrraedd y nod o "gyfrifoldeb gwleidyddol am fywyd Cymru".

Daeth yn aelod o Fwrdd Ysbytai Cymru ac yn rhinwedd ei waith fel cyfreithiwr cynrychiolodd rieni plant fu farw yn nhrychineb Aberfan yn eu hymgyrch i sicrhau cyfiawnder - "y gwaith tristaf nes i erioed".

Wedi etholiad cyffredinol 1974, penodwyd AS Aberafan, John Morris (Yr Arglwydd Morris o Aberafan bellach) yn Ysgrifennydd Cymru.

Penododd yntau Gwilym Prys Davies yn gynghorwr arbennig iddo yn y Swyddfa Gymreig - a gwnaeth ei brofiadau yno atgyfnerthu ei "argyhoeddiad fod angen cynulliad etholedig ar Gymru".

Fe'i siomwyd gan y penderfyniad i gynnal refferendwm ar gynlluniau datganoli'r llywodraeth ac fe deimlai "nad oedd y Llywodraeth yn taflu ei hawdurdod a'i phwysau yn ddigon cryf a chyhoeddus o blaid sefydlu'r cynulliad, a oedd wedi'r cyfan yn ymrwymiad a gyflwynwyd mewn maniffesto ac yn rhan sylfaenol o'i pholisi swyddogol."

Disgrifiodd ganlyniad refferendwm 1979 - pan roedd 80% o'r pleidleisiau a fwriwyd yn erbyn datganoli - fel un "chwerw drist i'r gwladgarwyr a'r datganolwyr fel ei gilydd."

Y Gymraeg

Roedd y Gymraeg yn bwysig iawn i'r Arglwydd Prys-Davies. Fel cyfreithiwr, arloesodd drwy ddefnyddio'r iaith yn y llys.

Daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1982, gan ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddweud ei lw - y person cyntaf i wneud hynny.

Yn yr ail siambr, bu'n un o lefarwyr yr Wrthblaid ar Gymru, iechyd a Gogledd Iwerddon.

Cynigiodd rhyw 25 o welliannau i Ddeddf Iaith 1993 ond fe'u gwrthodwyd i gyd.

Serch hynny meddyliai fod y ddeddf honno'n un arwyddocaol: "Roeddwn i'n meddwl bod sefydlu Bwrdd Iaith statudol yn gam mawr ymlaen... oherwydd roedd rhyw fath o gydnabyddiaeth fod ar wladwriaeth Prydain ddyletswydd statudol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg."

Yn 2001, ar adeg o ddadlau tanbaid ynghylch effaith mewnfudo i Gymru ar yr iaith Gymraeg, galwodd am sefydlu comisiwn barnwrol i ymchwilio i'r mater.

Sicrhaodd gymal yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a roddodd ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r Gymraeg.

Ymddeolodd o Dŷ'r Arglwyddi ym mis Mai 2015.

Disgrifiodd prif gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards, yr Arglwydd Prys-Davies fel "un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol ym mywyd gwleidyddol modern Cymru".

Fe ychwanegodd: "Roedd Gwilym Prys Davies yn ddyn diymhongar a gyflawnodd bethau mawr. Bydd ei gyfraniad i Gymru fodern, yn y ffurf o ddatganoli pŵer a chryfhau statws yr iaith Gymraeg, yn cael eu cydnabod am flynyddoedd lawer.

"Bu'n gweithio'n ddiflino i hyrwyddo buddiannau Cymru yn San Steffan, ac roedd ei ymroddiad i Gymru a'i phobl yn ddiamod."

Bu farw Llinos, gwraig yr Arglwydd Prys-Davies yn 2010. Mae'n gadael tair merch a'u teuluoedd.