Lansio Rhyfelgan: Caneuon o'r Rhyfel

Rhyfelgan Image copyright Gomer/BBC

Ganrif wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, bydd casgliad o ganeuon Cymraeg o'r rhyfel yn cael ei lansio yn y Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher.

Mae'n gyfrol sy'n cyflwyno caneuon y cyfnod, yn cynnwys caneuon o blaid ac yn erbyn y brwydro.

Mae hi'n 100 mlynedd ers i rai o'r caneuon gael eu gweld, a rhai yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf.

Yn ôl Meic Birtwistle yr awdur: "Yn aml, dydy milwyr sydd wedi bod trwy'r rhyfel ddim yn awyddus i drafod eu profiadau.

"Felly y bu yn achos fy nhad a'i gyfnod ef yn yr Ail Ryfel Byd. Oherwydd hyn, mae'n bwysig nad yw'r rhyfeloedd yma'n mynd yn angof, ac mae'r cyfrifoldeb sydd arnon ni i sicrhau nad yw hynny'n digwydd yn cynyddu o'r herwydd."

Roedd diddordeb Meic Birtwistle wedi dechrau ar ôl darganfod hanes perthynas iddo o'r enw John Volander Jones, gweinidog, awdur a chefnogwr brwd i David Lloyd George, a fu'n cyfansoddi nifer o ganeuon am y rhyfel.

Dywedodd bod "hanes fy nheulu wedi rhoi persbectif a chyfrifoldeb neilltuol i mi astudio a datgan fy nghasgliadau ynghylch y defnydd a wnaed o ganu i gefnogi neu wrthwynebu'r rhyfel".