Llywydd: Agored i ffilmio Bond yn y Senedd

Elin Jones
Image caption Elin Jones mewn sesiwn holi ag ateb ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth

Fe fyddai Llywydd y Cynulliad wedi bod yn agored i'r syniad o ffilmio James Bond yn y senedd.

Mae Elin Jones yn dweud nad ydi hi yn "precious am y pethau yma."

Cafodd cais gan gynhyrchwyr James Bond i ffilmio yn siambr y Cynulliad ei wrthod gan ei rhagflaenydd Rosemary Butler.

Mewn sesiwn holi ag ateb ar faes yr Eisteddfod yn y Fenni, dywedodd Elin Jones; "Mae'n dibynnu pwy fydd y James Bond nesaf! Dwi ddim yn precious am y pethau yma - os ydi'r gwleidyddion yn hapus, fe fyddwn i yn hapus i wneud".

Mae'r Llywydd newydd eisoes wedi rhoi caniatad i gynhyrchwyr drama wleidyddol S4C 'Byw Celwydd" ffilmio yn y Senedd yn yr Hydref.

Image copyright AP
Image caption James Bond - yr actor Daniel Craig yn ffilmio yn Rhufain y llynedd

Dywedodd Elin Jones bod adeilad y Cynulliad yn gallu bod yn "ddi-fflach" a bod angen gwneud y trafodaethau yn fwy amserol.

"Roedd y Cynulliad diwethaf yn rhwystredig. Mae angen mwy o gwestiynau amserol i adlewyrchu straeon y dydd. Mae angen gwneud y Cynulliad yn fwy perthnasol i beth sydd yn cael ei drafod ar lawr gwlad.

"Dwi am annog aelodau Cynulliad i adlewyrchu materion y dydd.... Mae'r adeilad yn gallu bod yn ddi-fflach felly rwy'n awyddus i glywed mwy o gerddoriaeth a gweld mwy o gelf trwy ddenu mwy o grwpiau ag artistiaid o bob rhan o Gymru".

Yn ôl Elin Jones mae angen i'r cyfryngau roi mwy o sylw i'r Cynulliad ond dywedodd mai dim ond sylw negyddol a ddaeth i'r sefydliad yn dilyn "ieithwedd amhriodol" Neil Hamilton yn ddiweddar.